Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 28 Mai
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 483,720 (Dos 1: 340,028 Dos 2: 143,677)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (17 Mai - 23 Mai)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
27 Mai 2021, 09:00
Achosion: 33
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 9.0 (Cymru: 8.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,287
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 895.9
Cyfran bositif: 1.0% (Cymru: 1.0% cyfran bositif)
Dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd
Rydym yn gofyn i drigolion Caerdydd ymuno ag ymgynghoriad mawr a fydd yn helpu i lunio dyfodol eu dinas dros y pymtheg mlynedd nesaf.
Yn lansio ddydd Gwener, 28 Mai, gofynnir i drigolion roi eu barn ar sut y dylai Caerdydd dyfu a datblygu er mwyn cwrdd â'r galw ar draws y pedwar prif maes canlynol:
Mae gwybodaeth ar yr ymgynghoriad - o'r enw ‘Llunio dyfodol Caerdydd' - ar gael yma www.cdllcaerdydd.co.uk. Gall trigolion fydd yn dilyn y ddolen ymweld ag arddangosfeydd rhithiwr a chymryd rhan mewn arolwg ar-lein ar y cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae Caerdydd yn ddinas fywiog a chyffrous sy'n tyfu a welodd rai newidiadau anhygoel dros y 25 mlynedd diwethaf wrthi iddi ddod yn brifddinas ffyniannus Ewropeaidd. Nawr, wrth wynebu dwy her yr Argyfwng Hinsawdd a'r adferiad ôl-bandemig, rydym ar drobwynt yn natblygiad ein dinas. Bydd y penderfyniadau a wnawn nawr yn llunio'r ddinas fydd gennym ni."
Darllenwch fwy yma: