Back
Dyfodol disglair i Tudor Lane gyda murlun newydd

 

23/4/21
Mae lôn lai adnabyddus yng nghanol y ddinas wedi gweld ychydig o waith gweddnewid arni fel rhan o raglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer yr ardal ehangach.

 

Mae murlun newydd llachar a lliwgar bellach yn addurno'r waliau ar hyd Tudor Lane, lôn fach sy'n rhedeg yn gyfochrog â Stryd Tudor yng Nglanyrafon lle mae amrywiaeth eang o weithdai a busnesau bach.

 

Yn ystod gwaith i drawsnewid Stryd Tudor yn ardal siopa ddeniadol a bywiog trwy fuddsoddiad mawr mewn gwelliannau masnachol ac amgylcheddol, mae Tudor Lane ei hun yn elwa o rai gwelliannau amgylcheddol hefyd, gan ddechrau gyda'r gwaith celf newydd ar ochr hen Glwb Cardiff Bus Transport.

C:\Users\c080012\Desktop\TL4.jpg

 

Cafodd y murlun ei ddylunio a'i baentio gan yr artist lleol Lowri Davies, a ysbrydolwyd gan y busnesau ar y lôn.  Mae'r palet lliwiau yn llachar ac yn adleisio rhai o'r lliwiau a ddefnyddir i wella adeiladau ar Stryd Tudor.

 

Dwedodd Lowri: "Rwyf wedi gweithio ar Tudor Lane ers 2003 ac rwyf wedi gweld rhai newidiadau graddol dros y blynyddoedd ond mae'r trafodaethau a'r datblygiadau diweddar wedi bod yn gadarnhaol iawn a gobeithio y byddant yn gwella'r profiad o weithio yn y lôn yn y dyfodol. 

 

"Fel arfer, rwy'n gwneud nwyddau bwrdd o faint domestig, felly roedd y syniad o ddylunio a phaentio arwynebedd mor fawr yn eithaf brawychus. Mae'r dyluniad yn dangos yr hyn sy'n digwydd a'r hyn sy'n cael ei wneud y tu ôl i ddrysau caeëdig ar Tudor Lane. Ceir cyfeiriadau at serameg, gwaith coed, beiciau, mecaneg, cerflunio, paentio ac electroneg.  Rwy' wedi cael cefnogaeth anhygoel gan eraill sy'n gweithio ar y lôn ac mae wedi bod yn wych dod i adnabod yr unigolion hynny'n well."

 

Paentiwyd y murlun hefyd gan yr artistiaid lleol Cecile Johnson Soliz, Molly Sinclair-Thomson, Rachel Humphreys a Gweni Llwyd ynghyd â Lowri gyda phaent wedi'i gyflenwi gan Knox & Wells, prif gontractwr y cynllun gwella masnachol ar Stryd Tudor, fel rhan o fenter budd cymunedol.

 

Mae gwelliannau eraill ar Tudor Lane yn cynnwys arwyddion newydd wrth ei fynedfeydd, baneri colofnau goleuadau llachar a bywiog, system unffordd, gwaith celf ar wal gefn yr adeilad cyfagos, Litchfield Court, gwelliannau i'r goleuadau stryd a mesurau gostegu traffig.

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r murlun newydd a gwelliannau amgylcheddol eraill wedi gwneud gwahaniaeth mawr i olwg Tudor Lane ac rydym yn mawr obeithio y bydd busnesau ac ymwelwyr yn gweld manteision y newidiadau hyn. Bydd y gwelliannau a groesewir yn fawr yn cael eu cwblhau ddiwedd y mis hwn a gobeithiwn y gellir sicrhau cyllid pellach mewn partneriaeth â'r busnesau i gynnig gwelliannau ychwanegol yn y dyfodol."