Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cwblhewch eich Cyfrifiad nawr er mwyn osgoi dirwy bosibl; cyfanswm brechu diweddarafCaerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Cwblhewch eich Cyfrifiad nawr er mwyn osgoi dirwy bosibl
Cafwyd ymateb gwych i Gyfrifiad 2021.
Mae naw o bob deg aelwyd ledled Cymru a Lloegr wedi cwblhau eu holiadur - ond mae'n rhaid i bawb gymryd rhan.
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref gwblhau'r cyfrifiad. Er bod Diwrnod y Cyfrifiad - 21 Mawrth 2021 - wedi mynd a dod, nid yw'n rhy hwyr i lenwi'ch ffurflen ac osgoi dirwy bosibl o £1,000.
Os nad ydych wedi cwblhau eich Cyfrifiad eto, gweithredwch nawr!
Mae digon o gefnogaeth ar gael gan gynnwys yn ein Canolfannau Cymorth y Cyfrifiad (029 2087 1071/cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk). Mae cymorth Iaith Arwyddion Prydain ar gael drwy e-bostio census@deafhub.cymru ac mae llawer o wybodaeth am gymorth arall i gwblhau eich ffurflen yn https://cyfrifiad.gov.uk/help
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 21 Ebrill
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 335,721 (Dos 1: 247,960, Dos 2: 87,743)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Ebrill - 16 Ebrill)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
20 Ebrill 2021, 09:00
Achosion: 83
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 22.6 (Cymru: 15.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,278
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 893.4
Cyfran bositif: 2.5% (Cymru: 1.7% cyfran bositif)