Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 20 Ebrill

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU nawr ar agor; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd ar 24 Ebrill.

 

Cronfa Adfywio Cymunedol y DU

Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU nawr ar agor,gyda £220m o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gael i sefydliadau ledled y DU wneud cais amdano.

Mae'r cyllid newydd yn bwriadu cefnogi cymunedau drwy fynd i'r afael â heriau, meithrin sgiliau a chreu cyfleoedd sy'n cyfrannu at yr economi leol.

Cyngor Caerdydd fydd y sefydliad arweiniol yng Nghaerdydd fydd yn cyflwyno'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwodd i Lywodraeth y DU i'w hystyried. Mae'r gronfa'n agored i amrywiaeth o ymgeiswyr, gan gynnwys cynghorau cymuned, y sector gwirfoddol a chymunedol, ysgolion a phrifysgolion a busnesau lleol.

Bydd ceisiadau llwyddiannus yn:

  • Adeiladu ar wybodaeth a mewnwelediad lleol
  • Cyd-fynd â chynlluniau strategol hirdymor ar gyfer twf lleol
  • Targedu'r bobl fwyaf anghenus
  • Cefnogi adfywiad cymunedol
  • Ategu darpariaeth gwasanaethau cenedlaethol a lleol arall

Blaenoriaethau buddsoddi'r cynllun hwn yw:

  • Buddsoddi mewn sgiliau
  • Buddsoddi mewn busnesau lleol
  • Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
  • Cefnogi pobl i mewn i waith

Mae 90% o'r gronfa yn gyllid refeniw, felly ni chefnogir prosiectau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar godi neu adnewyddu adeiladau, prynu tir neu brynu darnau mawr o offer.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais, ewch i:

www.caerdydd.gov.uk/cronfaafdywiocymunedol

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 20 Ebrill

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:330,048(Dos 1: 243,629, Dos 2: 86,401)

 

  • 80 a throsodd: 21,107 (Dos 1) 14,791 (Dos 2)
  • 75-79: 15,038 (Dos 1) 5,009 (Dos 2)
  • 70-74: 21,375 (Dos 1) 17,409 (Dos 2)
  • 65-69: 21,415 (Dos 1) 4,290 (Dos 2)
  • 60-64: 25,634 (Dos 1) 9,036 (Dos 2)
  • 55-59: 28,777 (Dos 1) 5,770 (Dos 2)
  • 50-54: 28,055 (Dos 1) 5,242 (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,034 (Dos 1) 1,860 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,161 (Dos 1) 8,663 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 43,229 (Dos 1) 3,454 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (09 Ebrill - 15 Ebrill)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

19 Ebrill 2021, 09:00

 

Achosion: 85

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 23.2 (Cymru: 15.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,382

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 921.8

Cyfran bositif: 2.5% (Cymru: 1.7% cyfran bositif)

 

Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd ar 24 - 25Ebrill

Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer 2021 gyda llwyfan rhithwir newydd cyffrous a rhaglen ysbrydoledig o 25 o ddigwyddiadau, a gaiff eu cyflwyno gan awduron a darlunwyr poblogaidd, dros un penwythnos - a hyd yn oed yn well na hynny, eleni mae pob digwyddiad yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd yn rhad ac am ddim!

Y 2 act olaf, sydd newydd eu cyhoeddi ar gyfer yr ŵyl deuluol arobryn, yw'r awdur Anna Wilson ac yn olaf, ond nid lleiaf o bell ffordd, darlunydd ein gŵyl sef Huw Aaron.

Hoffech chi wybod sut mae gwneud traethau bychain a bydoedd dan y dŵr? Ymunwch ag Anna Wilson i ddysgu mwy a darganfod ei llyfr lluniau ysbrydoledig newydd, ‘The Wide, Wide Sea', a dysgu am bwysigrwydd ailgylchu a chadw ein traethau'n lân.

Mae Anna Wilson yn byw ym Mhennsans yng Nghernyw, gyda'i theulu, ei chathod, ieir, hwyaid a chrwban o'r enw Hercules. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau lluniau a theitlau ffuglen gwych ar gyfer Pan Macmillan, HarperCollins, Stripes a Nosy Crow. Mae hi'n nofiwr gwyllt brwd, ac mae angerdd Anna dros anifeiliaid a'r byd naturiol yn disgleirio yn ei holl waith.

Ymgollwch ym myd Chwedlau Cymreig gyda Boc y ddraig fach goll.  Ymunwch â'r awdur/darlunydd Huw Aaron wrth iddo ddwdlan a sgwrsio am ei lyfr newydd, ‘Ble mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau'. Cadwch bapur a phensil wrth law - efallai bydd yn eich annog i ddarlunio hefyd!

Mae Huw Aaron yn byw yng Nghaerdydd gyda'i deulu ac mae'n gartwnydd ac yn ddarlunydd. Mae wedi darlunio nifer o lyfrau plant a chomics ac mae'n gyfrannwr cyson i Private Eye, The Oldie a'r Spectator.

Dysgwch fwy am ddigwyddiadau'r ŵyl, awduron a darlunwyr, yma:https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/