Back
Rhagor o Hybiau a llyfrgelloedd yn agor ar gyfer apwyntiadau yn unig


26/3/21

B
ydd rhagor o Hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn ailagor yr wythnos nesaf, gan gynnig gwasanaethau ar apwyntiad yn unig.

 

O ddydd Llun, 29 Mawrth, bydd 12 cyfleuster arall yn agor yn ogystal â Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Llaneirwg, Hyb Trelái a Chaerau a'r Powerhouse, sydd wedi bod ar agor ar gyfer argyfyngau drwy gydol y cyfnod cloi diweddaraf.

 

Mae'r cyfleusterau sy'n ailagor yn cynnwys Hyb Partneriaeth Tredelerch, Hyb Llanrhymni, Llyfrgell Treganna, Hyb y Tyllgoed, Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays, Hyb Ystum Taf a Hwb Gabalfa, Hyb Grangetown, Hyb Rhydypennau, Llyfrgell Radur, Hyb yr Eglwys Newydd, Llyfrgell Rhiwbeina a Hyb Llanisien. Mae gwybodaeth am yr oriau agor ar gael yma:

www.caerdydd.gov.uk/hybiau

 

Bydd mynediad i'r llyfrgelloedd a'r hybiau ar gyfer apwyntiadau wedi'u trefnu o flaen llaw (ac eithrio mewn achosion brys) ar gyfer gwasanaethau i Mewn i Waith, tai, budd-daliadau, gwasanaethau cyngor ar arian a chyfrifiaduron mynediad cyhoeddus.

 

Dylai cwsmeriaid ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk am help neu i drefnu apwyntiad.

 

Bydd gwasanaeth clicio a chasglu'r llyfrgelloedd ar waith ar sail apwyntiad hefyd i ddychwelyd a chasglu llyfrau.  Gall cwsmeriaid archebu teitlau neu ddetholiad o lyfrau sy'n seiliedig ar eu diddordebau a'u hoff genres ar gatalog ar-lein Llyfrgelloedd Caerdydd (https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/card_en) neu drwy ffonio llinell ffôn y llyfrgell (029 2087 1071, opsiwn 2). Bydd staff yn cadarnhau slot amser i gasglu llyfrau o'r hyb, ac mae angen dychwelyd y llyfrau i'r un hyb trwy apwyntiad yn unig.

 

Gall preswylwyr gasglu bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bwyd o'r hybiau a'r llyfrgelloedd heb drefnu apwyntiad.

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae cadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel yn flaenoriaeth wrth i ni ailagor ein hybiau a'n llyfrgelloedd yr wythnos nesaf. Gall cwsmeriaid ddisgwyl yr un mesurau diogelwch yr ydym i gyd wedi dod yn gyfarwydd â nhw bellach, gan gynnwys cadw pellter diogel oddi wrth eraill, gwisgo gorchudd wyneb y tu mewn oni bai ein bod wedi'u heithrio a defnyddio hylif diheintio dwylo i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws.

 

"Mae ein gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i breswylwyr drwy gydol y 12 mis diwethaf, hyd yn oed pan fu rhaid cau rhai o'n hadeiladau, ac rydym yn falch o allu cynnig rhai gwasanaethau wyneb yn wyneb unwaith eto, pan na fu'n bosibl i ni gefnogi cwsmeriaid dros y ffôn neu drwy e-bost.

 

"Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar-lein fel clybiau swyddi digidol, sgyrsiau i Mewn i Waith dros y we, sesiynau iechyd a lles a gweithgareddau ar-lein sydd wedi bod yn ffordd amhrisiadwy o ymgysylltu â chwsmeriaid yn ystod y cyfnodau cloi.

 

"Mae gwefan ddigwyddiadau'r Hybiau yn www.hybiaucaerdydd.co.uk yn cynnwys ystod eang o weithgareddau ar-lein am ddim i bob oedran felly rydym yn annog cwsmeriaid i gael golwg."