Back
Dyddiaduron ‘Diff Un Flwyddyn yn Ddiweddarach: Ffilm fer yn dangos hanesion o fywyd dan glo


26/3/21
Mae profiadau ac emosiynau plant yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf oherwydd y coronafeirws wedi cael eu cofnodi mewn ffilm fer.

 

Flwyddyn ar ôl dechrau'r cyfnod clo ledled y wlad fis Mawrth diwethaf pan gaeodd ysgolion, dechreuodd addysg gartref ac roedd angen i aelwydydd aros gartref, mae'r prosiectDyddiaduron ‘Diff- a wahoddodd bobl ifanc ar draws y ddinas i ddogfennu sut roedd eu bywydau wedi newid trwy gydol y pandemig, wedi arwain at fideo 30 munud sy'n cyflwyno'r cyfraniadau.

 

Lansiwyd y prosiect gan Addewid Caerdydd, menter gan y Cyngor sy'n dwyn ynghyd y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, diwydiant a darparwyr addysg, i godi ymwybyddiaeth o ehangder y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a datblygu sgiliau plant a phobl ifanc i lunio twf swyddi yn y dyfodol. Cefnogwyd y prosiect gan Screen Alliance Wales, Cymdeithas Adeiladu'r Principality a Phrifysgol De Cymru.

 

Gwahoddwyd plant a phobl ifanc i gyflwyno dyddiadur fideo byr, gludwaith lluniau neu gofnodion dyddiadur ysgrifenedig yn dangos sut yr oeddent yn cadw'n brysur, y sgiliau newydd yr oeddent yn eu datblygu o gartref a sut yr oeddent yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau'r teulu a ffrindiau er mwyn rhoi cyfle iddynt rannu eu profiadau yn ystod y cyfnod heriol hwnnw.

 

Mae ffilm fer bellach wedi'i chynhyrchu gan fyfyrwyr cynhyrchu cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru, un o bartneriaid y prosiect, i ddathlu'r prosiect a phawb a gyfrannodd ato. Bydd darnau o'r ffilm fer yn ymddangos ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ac Addewid Caerdydd. Gellir gweld y fersiwn lawn yma:https://www.youtube.com/watch?v=jDj53UcGzug

 

Gan weithio gydag Amgueddfa Caerdydd, bydd y fideos hefyd yn cael eu cadw i helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddeall sut beth oedd byw yn y cyfnod digynsail hwn i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd. Bydd yr agwedd hon ar y prosiect yn cael ei datblygu pan fydd yr amgueddfa'n gallu ailagor eto.

 

Mae pum disgybl wedi cael clod uchel am eu cyfraniadau atDyddiaduron ‘Diffac wedi derbyn tlws, ac mae pawb a gymerodd ran wedi derbyn medal.

 

Y pum cyfrannwr uchel eu clod yw Isla-Grace Martin a'i chwaer o Ysgol Uwchradd Llanisien,EiraWolski o Ysgol Gynradd Howardian, Irfan Gwillim o Ysgol Uwchradd Caerdydd,

Gertrude Tsohuka o Ysgol Gynradd Adamsdown a Lydia Barker o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "MaeDyddiaduron ‘Diffwedi bod yn brosiect gwych sydd wedi sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc wedi cael eu clywed yn ystod y pandemig.

 

"Mae cynnwys y ceisiadau wedi amrywio'n aruthrol o'r naill i'r llall, gan gyffwrdd ag ofnau plant a phobl ifanc, adegau o lawenydd a realiti bywyd yn ystod y cyfnodau clo, mae un nodwedd gyffredin yn glir drwyddi draw a honno yw cryfder, gwydnwch a chreadigrwydd ein Dyddiadurwyr ‘Diff. Mae'r fideos hyn yn amhrisiadwy - maent yn gofnodion llafar a gweledol pwysig sy'n rhoi cipolwg go iawn ar fywydau plant yn ystod cyfnod rhyfedd a hanesyddol iawn."

 

Twitter - @AddewidCdydd https://twitter.com/AddewidCdydd

https://www.facebook.com/cardiff.commitment.77

https://www.instagram.com/cardiffcommitment/