Back
Mae amser i gwblhau Cyfrifiad 2021 o hyd

 

24/3/21
Roedd Diwrnod y Cyfrifiad y penwythnos diwethaf, ond mae'n hanfodol bod y rhai nad ydynt wedi'i gwblhau eto yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl.

 

Ddydd Sul 21 Mawrth, aeth miliynau o bobl ledled Cymru a Lloegr ati i ateb cwestiynau allweddol amdanyn nhw eu hunain a'u cartrefi er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau lleol ym mhob cymuned eu llywio gan y wybodaeth orau posibl.

 

Fodd bynnag, i'r rhai hynny nad ydynt wedi cyflwyno eu holiaduron eto - ar lein neu ar bapur - neu'r rhai sydd efallai wedi colli eu llythyr gwahoddiad, mae llawer o help ar gael.

 

"Mae angen i'r wybodaeth a rowch ymwneud â phwy sy'n byw yn eich cartref fel arfer ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef dydd Sul 21 Mawrth ond, os nad ydych chi wedi llenwi eich holiadur eto, cofiwch wneud hynny - mae amser ar ôl o hyd," meddai Dirprwy Ystadegydd Gwladol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Iain Bell.

"Dylai pob cartref fod wedi cael llythyr yn ei wahodd i gymryd rhan ac rydym ni wedi cael ymateb gwych hyd yma. Os nad ydych chi wedi cael eich llythyr, neu os ydych chi wedi'i golli, gallwch fynd ar lein i www.cyfrifiad.gov.uk a gofyn am god mynediad unigryw newydd.

"Mae digon o help ar gael, gan gynnwys cymorth wyneb yn wyneb yng Nghanolfannau Cymorth lleol y Cyfrifiad.

 

"Cyn bo hir, bydd swyddogion maes yn dechrau ymweld â chartrefi nad ydynt wedi cwblhau eu cyfrifiad. Byddant yn dilyn canllawiau cadw pellter

cymdeithasol a chadw'n ddiogel rhag COVID-19, gan helpu pobl i gymryd rhan.

 

"Byddant yn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac ni fydd byth angen iddynt fynd i mewn i gartrefi pobl. Byddant yn gweithredu mewn ffordd debyg i weithwyr post neu gwmnïau danfon bwyd."

 

Bydd canlyniadau'r cyfrifiad yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, a'r anghydraddoldebau mae pobl yn eu profi, gan sicrhau y bydd y penderfyniadau mawr a fydd yn wynebu'r wlad yn dilyn y pandemig ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar y wybodaeth orau posibl, drwy'r atebion dienw a gaiff eu rhoi.

 

Ni fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol byth yn rhannu manylion personol ac ni fydd neb, gan gynnwys cyrff y llywodraeth, yn gallu eich adnabod chi yn ystadegau'r cyfrifiad. Caiff cofnodion personol y cyfrifiad eu cadw'n ddiogel am 100 mlynedd a dim ond wedyn y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu eu gweld.

 

Os na fydd pobl yn cwblhau'r cyfrifiad, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu dirwy o hyd at £1,000.

 

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i ddod o hyd i un o ganolfannau cymorth lleol y cyfrifiad, ewch i www.cyfrifiad.gov.uk