Back
Ffensio grisiau’r Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd
Mae grisiau'r Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd yn cael eu ffensio i annog pobl i beidio ag ymgynnull mewn grwpiau ar adeg pan fo cyfyngiadau Covid-19 yn dal i fod ar waith.

Mae'r ffensys, a gaiff eu codi cyn y penwythnos, yn cael eu gosod gan Gyngor Caerdydd yn dilyn trafodaethau gyda Heddlu De Cymru.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r tywydd gwell dros yr ychydig benwythnosau diwethaf wedi golygu bod niferoedd cynyddol o bobl yn ymgynnull ym Mae Caerdydd.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn parhau i ufuddhau i'r rheolau, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan. Y peth olaf y mae unrhyw un ohonom ei eisiau yw i'r holl waith da ddadwneud y gostyngiad yn nifer yr achosion cadarnhaol yng Nghaerdydd a ninnau wedi gwneud mor dda."  

Codwyd ffensys tebyg yr haf diwethaf yn dilyn y sawl achos o bobl yn ymgynnull ar y grisiau y bu rhaid galw ar yr heddlu i’w gwasgaru, a defnyddio staff ychwanegol y cyngor i wneud gwaith glanhau enfawr a gostiodd filoedd o bunnoedd i drethdalwyr.