Back
Cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim i holl staff Cyngor Caerdydd
I gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi, mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi manylion cynllun newydd i gynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i'w holl staff, gan gwmpasu pob gallu, a'r ystod amrywiol o wasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod lleol.

Mae'r cynllun yn rhan o Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg newydd, sy'n anelu at ddod â gweithdrefnau staffio, hyfforddi a recriwtio ynghyd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Gall y gallu i siarad Cymraeg fod yn fuddiol iawn o ran cyfleoedd gyrfaol a chyflogaeth, gyda mwy a mwy o gyflogwyr yng Nghaerdydd, a ledled Cymru, yn awyddus i recriwtio staff sy'n gallu gweithio yn y ddwy iaith. Ond mae'r manteision yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny - mae'n sgil sydd hefyd yn agor y drws i ddiwylliant bywiog a ffyniannus, mae dysgu iaith yn creu ymdeimlad o les, o berthyn ac o deimlo'n gysylltiedig.

"Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni rydym yn ail-bwysleisio ein hymrwymiad i wneud y Cyngor yn weithle cynyddol ddwyieithog, ac yn helpu i gynyddu nifer y siaradwyr dwyieithog yng Nghaerdydd – mae hynny eisoes yn digwydd, ond rydym am fynd ymhellach ar ein taith i fod yn Brifddinas wirioneddol ddwyieithog.

"Rydym yn sefydliad sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg, yn ffurfiol ac yn gymdeithasol, ymhlith ein staff. Ein nod yw meithrin ethos dwyieithog, a gweithle, lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ym mhob cyd-destun.Mae hyfedredd mewn sawl iaith yn sgil busnes pwysig ac mae'n cefnogi gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl Caerdydd. Mae hefyd yn gallu cynnig manteision iechyd- mae ymchwil wedi dangos bod dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yn fuddiol o ran iechyd meddwl ac y gall oedi dementia a chlefyd Alzheimer.

"Felly, rydym am i'n holl staff, lle bynnag y maent yn gweithio yn y cyngor, gael y cyfle i ddysgu Cymraeg, nid yn unig fel eu bod yn gallu cynnig a hwyluso mynediad i'n holl wasanaethau i breswylwyr, ond hefyd fel y gallant helpu eu plant gyda gwaith cartref, rhannu yn yr ystyr o gymuned a ddaw gyda bod yn siaradwr Cymraeg a mwynhau’r hyder a'r balchder a ddaw o allu newid yn gyfforddus o un iaith i'r llall."

Bydd dewislen o opsiynau i hwyluso hyfforddiant Cymraeg yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â'r Academi (llwyfan hyfforddi mewnol Cyngor Caerdydd) a thiwtor Cymraeg y Cyngor. Bydd darparwyr hyfforddiant yn cynnwys darparwyr allanol fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd pob aelod o staff yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr hyfforddiant am ddim hwn i'w galluogi i gyrraedd lefel hyfedredd sy'n cyfateb i Lefel 1 ar y Fframwaith ALTE ar gyfer dysgu iaith. Yn dilyn yr hyfforddiant hwn, drwy ddilyn yr hyfforddiant iaith Gymraeg uwch a ddarperir, neu a gefnogir gan y Cyngor, efallai y bydd aelodau o staff am barhau ar eu taith i Lefel 3 ac uwch - sef y lefel a ddymunir ar gyfer pob swydd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid – cyn symud tuag at fod yn gwbl ddwyieithog a hyfedr ar Lefel 5.

Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i ddefnyddio'r holl gyfleoedd sydd ar gael i hysbysebu a hyrwyddo ei hun fel cyflogwr dwyieithog, gan adeiladu ar lwyddiant ei strategaeth Caerdydd Ddwyieithog sydd wedi gweld cynnydd o 81.7% yn nifer y staff â sgiliau iaith Gymraeg ers ei lansio yn 2017 yn y lle cyntaf.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas hefyd: "Mae gennym gyfle unigryw i wneud y gorau o'n buddsoddiad parhaus mewn addysg Gymraeg ac fel un o gyflogwyr mwyaf y ddinas, i arwain drwy esiampl. Yn rhy aml, nid yw’r sgiliau iaith a ddysgir yn yr ysgol yn cael eu defnyddio gan lawer o bobl ifanc unwaith y byddant yn gadael addysg llawn-amser. Fel cyflogwr gallwn ddarparu cyfleoedd newydd gwerthfawr i'n pobl ifanc ddefnyddio'r sgiliau hyn yn y gweithle, helpu i wireddu ein gweledigaeth ein hunain fel cyngor, a chefnogi nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

"Bydd yr ymrwymiadau a wnaed yn ein Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg newydd yn sicrhau bod ein holl weithdrefnau recriwtio a hyfforddi fel cyflogwr yn cyfrannu at y weledigaeth a'r daith honno i fod yn brifddinas wirioneddol ddwyieithog.”

Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, byddai'r strategaeth yn gweld:

  • yr holl staff yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg i Lefel 1.
  • Pob swydd a hysbysebir sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid i gynnwys hyfedredd (ALTE Lefel 3 neu uwch) mewn Cymraeg a/neu iaith Gymunedol fel gofyniad dymunol.