19/02/21 - Cynigion cyllideb ôl-bandemig wedi'u cynllunio i 'roi hwb' i Gaerdydd a diogelu gwasanaethau hanfodol
Bydd cyllideb adfer ôl-bandemig gwerth miliynau o bunnoedd, i Gaerdydd - wedi ei llunio i helpu i greu swyddi newydd, darparu cartrefi cyngor newydd, adeiladu ysgolion gwell a diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol - yn mynd gerbron cyngor llawn y ddinas i'w chymeradwyo ym mis Mawrth.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25893.html
19/02/21 - Ystyried cynlluniau i brynu hostel yn y ddinas
Bydd ymagwedd 'Dim Mynd yn Ôl' Cyngor Caerdydd tuag at ddarparu gwasanaethau digartrefedd yn y ddinas yn cymryd cam arall ymlaen yr wythnos nesaf os cytunir ar gynlluniau i brynu cyfleuster newydd.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25898.html
19/02/21 - Cynigion diwygiedig ar gyfer ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows
Bydd adroddiad sy'n argymell bod cynlluniau'n cael eu symud ymlaen i leoli ac ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows newydd yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau, 25 Chwefror.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25896.html
19/02/21 - Ymateb Cyngor Caerdydd i 'Strategaeth Drafnidiaeth Cymru'
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried ymateb y Cyngor i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn ei gyfarfod ar 25 Chwefror.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25895.html
17/02/21 - Coed Stryd y Castell yn symud i gartref parhaol yn Sblot
Mae 19 o goed a osodwyd dros dro ar Stryd y Castell yr haf diwethaf yn cael eu symud i gartrefi parhaol newydd ym Mharc Sblot a Pharc Moorland.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25877.html
17/02/21 - Gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr
O ddydd Llun, bydd ysgolion yn croesawu plant yn ôl i'r Feithrin, Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25866.html
17/02/21 - Gwaith i ddechrau i wella tair ardal chwarae
Bydd gwaith i wella tair ardal chwarae yng Nghaerdydd yn dechrau erbyn diwedd y mis.
Darllenwch fwy yma: