Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: maes parcio ym Mharc Cefn Onn i'w gyfyngu i ddeiliaid Bathodyn Glas yn unig;cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i
Maes parcio ym Mharc Cefn Onn i'w gyfyngu i ddeiliaid Bathodyn Glas yn unig
Maes parcio ym Mharc Cefn Onn i'w gyfyngu i ddeiliaid Bathodyn Glas yn unig o'r penwythnos hwn
Mae'r penderfyniad wedi'i wneud yn dilyn trafodaethau gyda Heddlu De Cymru ac mae'n dod ar ôl i ni weld nifer uchel o bobl yn ymweld â'r safle mewn car dros yr wythnosau diwethaf.
Mae parc safonol y Faner Werdd wedi elwa'n ddiweddar o fuddsoddiad sylweddol, gyda'r nod o gynyddu hygyrchedd i bobl â phroblemau iechyd a symudedd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Er bod ffigyrau Covid-19 yn mynd i'r cyfeiriad cywir, mae'n dal yn bwysig iawn bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau - mae hynny'n cynnwys aros yn lleol a pheidio â gyrru i wneud ymarfer corff."
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 11 Chwefror
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 96,759.
Grwpiau Blaenoriaeth:
Staff cartrefi gofal: 3,962
Preswylwyr cartrefi gofal: 1,759
80 oed a hŷn: 18,244
Staff gofal iechyd: 21,828
Staff Gofal Cymdeithasol: 7,186
75-79: 12,084
70-74: 14,145
Eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 8,057
Grwpiau eraill o fewn grwpiau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (e.e. 65-69): 9,494
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd arwefan Cyngor Caerdydd.
Cafwyd y data gan BIPCAF
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (30 Ionawr - 05 Chwefror)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
9 Chwefror 2021, 09:00
Achosion: 362
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 98.7 (Cymru: 111.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 4,271
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,164.1
Cyfran bositif: 8.5% (Cymru: 9.3% cyfran bositif)