Back
Newyddion Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 5 Chwefror

Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro Morgannwg; niferoedd achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, y data ar gyfer y saith diwrnod diwethaf (25 Ionawr - 31 Ionawr); a mae cwmni coffi mwyaf ecogyfeillgar Caerdydd yn dod i Barc Bute.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i  www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 5 Chwefror 2021

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o  74,270  brechiad.

 

Y grwpiau blaenoriaeth yw:

Staff Cartrefi Gofal: 4,267

Preswylwyr Cartrefi Gofal: 1,773

80 oed ac yn hŷn: 16,579

Staff Gofal Iechyd: 21,090

Staff Gofal Cymdeithasol: 6,778

75-79, 70-74, eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 23,783

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar  wefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (25 Ionawr - 31 Ionawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

 

Mae'r data'n gywir ar:

4 Chewfror 2021, 09:00

 

Achosion: 429

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 116.9 (Cymru: 129.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,726

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,015.5

Cyfran bositif: 11.5% (Cymru: 11.0% cyfran bositif)

 

Handlebar Barista i weithredu caffi symudol newydd ym Mharc Bute

Dyfarnwyd contract i'r cwmni arlwyo a choffi symudol Handlebar Barista i weithredu consesiynau arlwyo ym Mharc Bute, Caerdydd.

Yn falch o alw eu hunain yn gwmni coffi mwyaf ecogyfeillgar Caerdydd, yn fuan byddant yn gweini eu cymysgedd cyfrinachol o goffi crefftus o tuk-tuk wedi'i bweru gan ynni solar sydd newydd ei ailwampio, neu o un o'u treisiclau coffi hen ffasiwn wedi'i bweru gan bedalau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Parc Bute yn rhan mor bwysig o'n dinas, efallai yn fwy nawr nag o'r blaen, felly roedd yn fwriad gennym erioed i ddod o hyd i weithredwr a allai reoli ei fusnes yn y ffordd fwyaf ymwybodol o'r amgylchedd.

"Mae gweithio gyda Handlebar Barista yn golygu ein bod yn rhoi cyfle gwych i fusnes lleol sy'n tyfu, yn gwella'r cynnig i ymwelwyr â'r parc, ac yn bwysig, yn creu arian ychwanegol i'n helpu i barhau i gynnal a gwella'r man gwyrdd hwn sydd o'r radd flaenaf."

"Ar hyn o bryd mae angen i bobl fod yn dilyn y rheolau ar Covid-19 ac yn aros gartref gymaint â phosibl, ond yn y dyfodol pan fydd pobl o bob rhan o'r ddinas a'r tu hwnt yn gallu dychwelyd i'r parc, rwy'n siŵr y bydd llawer ohonyn nhw'n mwynhau'r cyfle i brynu coffi a mynd am dro trwy erwau penigamp Parc Bute."

Gan weithredu saith diwrnod yr wythnos, ac yn cynnig bwydlenni brecwast a chinio, hufen iâ yn yr haf, diodydd oer, siocled poeth a dewis o de hefyd, bydd y caffi symudol yn symud rhwng tri lleoliad yng ngogledd y parc:  Ystafelloedd Newid Blackweir, Pont Droed Blackweir, a lleoliad ar Daith Taf (ger preswylfeydd myfyrwyr Tal-y-bont).

Dywedodd Chris Garrett, Cyd-berchennog Handlebar Barista: "Ni allwn aros i ddod â'n caffi i Barc Bute. Mae ein cerbydau ecogyfeillgar ac ethos y cwmni o gynaliadwyedd yn gweddu'n berffaith â'i fywyd gwyllt a'i leoliad naturiol, a bydd yn anrhydedd go iawn i allu gweini ein cwsmeriaid yng nghanol gwyrdd y ddinas. Rydym yn gwybod pa mor bwysig mae Parc Bute i bobl Caerdydd, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein presenoldeb yn ychwanegu at brofiad pawb pan fyddant yn dod i ymweld."