Back
Prentis Cyngor Caerdydd yn rhannu ei phrofiad ar gyfer Wythnos Prentisiaethau

5/2/21

Mae un o weithwyr Cyngor Caerdydd wedi rhannu ei phrofiad fel Prentis Corfforaethol ar gyfer Wythnos Prentisiaethau (8-14 Chwefror).

Thema'r digwyddiad blynyddol wythnos o hyd eleni yw 'Adeiladu'r Dyfodol' a bydd yn arddangos yr effaith y mae prentisiaethau yn ei chael ar gymunedau, sefydliadau a'r economi yma yng Nghymru, yn ogystal â'r sgiliau ymarferol y mae prentisiaid yn eu datblygu ar gyfer dyfodol llewyrchus.

Darllenwch stori Elen isod fel Cynorthwy-ydd Marchnata Prentis Corfforaethol:

"Elen ydw i ac rwy'n Brentis Corfforaethol - Cynorthwy-ydd Marchnata sy'n gweithio'n rhan o dîm Addewid Caerdydd yn y Gyfarwyddiaeth Addysg. Mae Addewid Caerdydd yn helpu i greu cyfleoedd ymgysylltu â busnesau i blant a phobl ifanc er mwyn annog uchelgais, datblygu sgiliau a chreu cyfleoedd iddynt gyda'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Ar ôl cael fy mhenodi ym mis Chwefror 2020, dechreuais weithio gartref oherwydd y pandemig byd-eang a daeth ein holl gyfarfodydd a digwyddiadau yn rhai rhithwir.

Er i'r pandemig gyflwyno her newydd o weithio gartref, credaf fod y newid i weithio'n rhithwir wedi fy ngalluogi i ehangu fy ngwybodaeth am farchnata digidol ymhellach. Mae fy rôl yn cynnwys arwain ar ymgyrchoedd marchnata digidol, rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gweithio gyda Thîm Cyfathrebu Canolog y Cyngor, ysgrifennu copi, creu graffeg ddigidol ac ystyried y defnydd o lwyfannau arloesol i gyrraedd cynulleidfaoedd targed.  Mae fy hyder wedi gwella'n fawr drwy fynychu cyfarfodydd rhithwir gyda phartneriaid mewnol ac allanol a fydd yn fy mharatoi ar gyfer fy rolau yn y dyfodol.

Pe bawn yn rhoi rhywfaint o gyngor ar y broses ymgeisio, byddwn yn dweud gwnewch yn siŵr eich bod yn ymdrin â phob pwynt yn y fanyleb person er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y rôl. O ran y cyfweliad, byddwn yn awgrymu eich bod yn cymryd eich amser a sicrhau bod gennych enghraifft i ategu pob ateb, efallai o rôl flaenorol, yr ysgol neu brofiad bywyd yn gyffredinol.

Pob lwc!"

Mae Cyngor Caerdydd wedi dechrau recriwtio ar gyfer 40 o rolau Prentisiaeth a Hyfforddai newydd ar draws sawl rhan o'r Cyngor, gan helpu i greu mwy o gyfleoedd gwaith yn y ddinas.

Ewch idudalen swyddi Caerdyddi weld y rolau ac i gofrestru i gael negeseuon ynghylch swyddi wrth i ni barhau i ychwanegu rolau newydd.