Back
Diweddariad COVID-19: 1 Chwefror

Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys:Canolfan Brechu Torfol nawr ar waith yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn;thabl a map sy'n dangos nifer yr achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, y data ar gyfer y saith diwrnod diwethaf (21 Ionawr - 27 Ionawr); cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro Morgannwg; a dyddiadau cau Ffordd Lamby yn Chwefror.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch iwww.llyw.cymru/coronafeirws

 

Canolfan Brechu Torfol nawr ar waith yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn

Rhoddwyd y pigiadau cyntaf heddiw yng Nghanolfan Brechu Torfol COVID-19 newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi dosbarthu hysbysiadau'n atgoffa pobl i aros am apwyntiad cyn ymweld â chanolfan frechu newydd Pentwyn, a'r ganolfan bresennol yn Sblot.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynnydd gyda rhaglen frechu COVID BIP Caerdydd a'r Fro, ewch i https://cavuhb.nhs.wales/covid-19/cavuhb-covid-19-mass-vaccination-programme/?fbclid=IwAR1LlxsdJJnnHM_vp3YgUwS9H8uBz9aWHi0R5nImIg5psTU38kQcUQO3Hhg

Tra bo Canolfan Hamdden Pentwyn ar gau i ddefnyddwyr hamdden i alluogi'r ganolfan frechu, rydym yn edrych i weld a allwn ni fanteisio ar y cyfle i fuddsoddi rhywfaint i foderneiddio'r cyfleuster.

Os gellir nodi'r gyllideb angenrheidiol, caiff cynlluniau'n eu paratoi i'w trafod gyda'r gymuned leol.

Mae'r opsiynau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn cynnwys campfa fwy, wedi'i huwchraddio, gwelliannau i'r caeau awyr agored, a newidiadau i ardal y pwll i'w wneud yn well ar gyfer nofio, ac ar gyfer dysgu nofio.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (21 Ionawr - 27 Ionawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

 

Mae'r data'n gywir ar:

31 Ionawr 2021, 09:00

 

Achosion: 515

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 140.4 (Cymru: 141.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,946

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,075.5

Cyfran bositif: 13.1% (Cymru: 11.7% cyfran bositif)

Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng Nghaerdydd.

Rydym yn defnyddio'r clystyrau hyn oherwydd eu bod yn adlewyrchu orau'r meysydd lle mae pobl fwyaf tebygol o fod yn byw, gweithio a siopa.  Mae hyn yn golygu y gallwch gael y syniad gorau o'r gyfradd bresennol o heintiau COVID-19 newydd yn eich ardal.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 1 Chwefror 2021

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o61,883brechiad.

 

Y grwpiau blaenoriaeth yw:

Staff Cartrefi Gofal: 3,485

Preswylwyr Cartrefi Gofal: 1,609

80 oed ac yn hŷn: 14,212

Staff Gofal Iechyd: 18,701

Staff Gofal Cymdeithasol: 4,797

75-79, 70-74, eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 19,079

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd arwefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Dyddiadau Cau Ffordd Lamby yn Chwefror

Sylwer, bydd canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby wedi cau ar y dyddiau canlynol ar gyfer gwaith adeiladu:
 

  • Dydd Sadwrn 6 Chwefror
  • Dydd Sul 7 Chwefror
  • Dydd Sadwrn 13 Chwefror
  • Dydd Sul 14 Chwefror

Ni fydd modd i chi archebu apwyntiad ar gyfer y dyddiadau hyn ond rydym wedi cynyddu nifer y slotiau sydd ar gael yng Nghlos Bessemer.

Dylech ond fynd i'r ganolfan ailgylchu leol os yw'n hanfodol ac nad ydych yn gallu storio eich gwastraff a'ch deunydd ailgylchu gartref.

Archebwch eich ymweliad nesaf yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/Pages/default.aspx