Back
Newyddion Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 26 Ionawr

Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro; niferoedd achosion a phrofion COVID-19; ail-osod torchau pabi wrth Gofeb Ryfel Gerddi Alexandra; a deg o bethau y mae angen i chi eu gwybod am y newidiadau i ddyddiad casglu gwastraff ac ailgylchu.

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG.Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch iwww.llyw.cymru/coronafeirws

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 26 Ionawr 2021

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o 44,707brechiad.

 

Y grwpiau blaenoriaeth yw:

Staff Cartrefi Gofal: 2,266

Preswylwyr Cartrefi Gofal: 1,457

80 oed ac yn hŷn: 8,759

Staff Gofal Iechyd: 17,823

Staff Gofal Cymdeithasol: 4,479 

75-79, 70-74, eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 9,923 

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd arwefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (15 Ionawr - 21 Ionawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

 

Mae'r data'n gywir ar:

25 Ionawr 2021, 09:00

 

Achosion: 812

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 221.3 (Cymru: 218.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,804

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,309.3

Cyfran bositif: 16.9% (Cymru: 14.9% cyfran bositif)

 

Ail-osod torchau pabi wrth Gofeb Ryfel Gerddi Alexandra

Gosodwyd torchau newydd yng Ngerddi Alexandra i anrhydeddu Pobl Dduon a Phobl o Leiafrifoedd Ethnig oedd yn aelodau o'r Lluoedd Arfog, a#r bobl hynny a wasanaethodd ac a fu farw yn Rhyfel y Falklands.

Bu'n rhaid gosod torchau newydd ar ôl i'r rhai pabi gwreiddiol gael eu difrodi'r wythnos diwethaf a'u gosod ger bin sbwriel.

Ymunodd Roma Taylor, cynrychiolydd Race Council Cymru a Windrush Cymru Elders, ac Uwchgapten Peter Harrison o'r Lluoedd Arfog Prydeinig, ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn seremoni fer heddiw am hanner dydd yng Ngerddi Alexandra gan gadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas: "Ar ôl y gofid a achoswyd yr wythnos diwethaf gan ddelwedd o Dorchau Pabi wedi eu taflu, roedd hi'n fraint cael ymuno â chynrychiolwyr o Race Council Cymru a'r Lluoedd Arfog heddiw i osod torchau newydd o flaen y ddwy Gofeb yng Ngerddi Alexandra.

"Rwy'n falch bod y torchau gwreiddiol wedi cael eu newid mor gyflym, a byddwn ni'n eu sicrhau nawr rhag difrod gan y tywydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr adeg yn ddiweddarach eleni pan allwn i gyd, gobeithio, ddod at ein gilydd mewn seremoni newydd y bydd Cyngor Caerdydd a Race Council Cymru yn ei chynnal ar y cyd, i ddiolch a chofio am wasanaeth ac aberth Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig."

Gweithiodd Cyngor Caerdydd yn agos gyda Race Council Cymru a phartneriaid eraill i osod y gofeb yn 2019, gan goffáu cyfraniad Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mae'n deillio o ymgyrch gydol oes gan y diweddar Patti Flynn, a gollodd ei thad a'i brodyr yn y rhyfel, ac mae'n gofeb y gwelodd Patti iddi'n cael ei dadorchuddio yn ei dinas enedigol.

Dywedodd y Barnwr Ray Singh CBE, Cadeirydd Race Council Cymru: "Heddiw, bydd ein hynafgwyr yn sefyll ochr yn ochr â Chyngor Caerdydd a'r Lluoedd Arfog i osod torchau newydd i sicrhau bod dynion a menywod oedd yn byw yng Nghymru oedd yn hanu o'r Gymanwlad a fu farw yn y rhyfeloedd yn cael eu coffáu, a bod eu gwasanaeth yn cael ei gydnabod a'i anrhydeddu mewn modd addas. Diolchwn i Gyngor Caerdydd am eu cefnogaeth ac i bawb a wasanaethodd, ac sy'n gwasanaethu ein cenedl yng Nghymru - Mewn Angof Ni Chewch Fod."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25713.html

 

Deg o bethau y mae angen i chi eu gwybod am y newidiadau i ddyddiad casglu gwastraff ac ailgylchu

Rydyn ni'n newid ein diwrnodau casglu gwastraff ac ailgylchu i gynnig gwasanaeth gwell sy'n fwy effeithlon a chost-effeithiol yn yr hirdymor.

O ddydd Llun, 22 Chwefror, mae'n bosib y bydd diwrnod, wythnos neu amser eich casgliadau'n newid.

Bydd llythyr yn dod drwy'r drws yn ystod yr wythnosau nesaf yn esbonio popeth.

Yn ycyfamser, edrychwch ar ddeng peth y mae angen i chi eu gwybod am y newidiadau a sut y gallant effeithio arnoch chi:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25708.html