Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: niferoedd achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, y data ar gyfer y saith diwrnod diwethaf (11 Ionawr - 17 Ionawr); cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro Morgannwg; a coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru gartref.
Aros gartref
Achub bywydau
Diogelu'r GIG
Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch iwww.llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (11 Ionawr - 17 Ionawr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
21 Ionawr 2021, 09:00
Achosion: 1,035
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 282.1 (Cymru: 271.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,567
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,517.3
Cyfran bositif: 18.6% (Cymru: 16.5% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 21 Ionawr 2021
Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o 34,158brechiad.
Y grwpiau blaenoriaeth yw:
Staff Cartrefi Gofal: 2,096
Preswylwyr Cartrefi Gofal: 1,004
80 oed ac yn hŷn: 5,127
Staff Gofal Iechyd: 16,301
Staff Gofal Cymdeithasol: 3,928
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd arwefan Cyngor Caerdydd.
Cafwyd y data gan BIPCAF
Coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru gartref
Bydd recordiad o Seremoni Genedlaethol Cymru eleni i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost ar gael ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.
Caiff ei gyhoeddi ar 27 Ionawr 2021 i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, mae'r recordiad o wasanaeth rhyng-ffydd a gynhelir gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru wedi cynnal Seremoni Genedlaethol Cymru ar y cyd i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru yn Neuadd y Ddinas. Oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol y Coronafeirws, ni fydd digwyddiad Neuadd y Ddinas yn cael ei gynnal eleni, felly bydd coffâd wedi'i recordio ar gael ar-lein i gynnig cyfle i bobl gymryd rhan gartref.
Bydd y recordiad ar gael o 11.00am Ddydd Mercher 27 Ionawr 2021 ar www.youtube.com/cardiffcouncil.
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod rhyngwladol i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Mae'r diwrnod yn anrhydeddu'r goroeswyr ac yn cofio'r rheiny a fu farw. Fe'i cynhelir ar 27 Ionawr bob blwyddyn, pen-blwydd rhyddhau carchar Auschwitz.
Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 yw 'Byddwch y goleuni yn y tywyllwch', cais gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i bawb ystyried gwahanol fathau o 'dywyllwch', er enghraifft, erledigaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth, gwybodaeth anghywir, gwadu cyfiawnder; a gwahanol ffyrdd o fod ‘y goleuni', er enghraifft, ymwrthedd, gweithredoedd o undod, achub a thynnu sylw at gelwyddau. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i oleuo cannwyll yn eu ffenestri am 8pm Ddydd Mercher, 27 Ionawr, gan greu eiliad genedlaethol i oleuo'r tywyllwch.
Ymhlith y cyfranwyr i Seremoni Genedlaethol Cymru eleni mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Prif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, a'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich.
Dwedodd Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich: "Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn dod ag erchyllterau'r Holocost a hil-laddiadau i lygad y meddwl. Mae'n ein hatgoffa'n rymus nad yw gweithredoedd mor erchyll o erledigaeth, sy'n cael eu gyrru gan wrth-semitiaeth, hiliaeth, senoffobia a gwahaniaethu, wedi'u cyfyngu i dudalennau hanes, ond yn drist iawn yn parhau heddiw. Efallai na fyddwn yn gallu ymgasglu'n gorfforol eleni, ond rydym yn dal i ddod at ein gilydd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2021, gan ailddatgan ein cyfrifoldeb cyffredin i ymladd y drygioni hwn."
Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost i gofio'r dioddefwyr ac anrhydeddu goroeswyr yr Holocost a phob hil-laddiad ers hynny. Rhaid i'r erchyllterau hyn gael lle parhaol yn ein cof, fel ein bod ni a chenedlaethau'r dyfodol yn deall yr achosion ac yn myfyrio ar y canlyniadau. Gyda'n gilydd, yn y coffâd blynyddol hwn, safwn yn erbyn y rhai sy'n credu bod hil, crefydd, anabledd neu rywioldeb rywsut yn gwneud bywyd yn werth llai na'u bywyd nhw. Wrth oleuo'r tywyllwch rydym yn dangos ein penderfyniad i fynd i'r afael ag erledigaeth, cam-wybodaeth, a gwadu cyfiawnder."
Dwedodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru: "'Eleni rydym yn gorfod nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yn wahanol ond mae'n bwysig ein bod yn nodi'r cerrig milltir ingol hyn, i fyfyrio ar sut y gallwn ddysgu o'r digwyddiadau ofnadwy hyn a gwneud popeth o fewn ein gallu, fel unigolion, cymunedau a ffrindiau, i ddangos undod â'r rhai sy'n dal i ddioddef erledigaeth."
Cynhelir Seremoni Goffa'r Deyrnas Gyfunol ar gyfer Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Holocost am 7pm ar 27 Ionawr 2021. I gofrestru i wylio'r seremoni, ewch ihmdt.geteventaccess.com/registration.
I gefnogi ennyd genedlaethol Goleuo'r Tywyllwch, bydd adeiladau a thirnodau'n cael eu goleuo'n borffor.
Adeiladau a thirnodau Caerdydd sy'n cymryd rhan yn cynnwys: