Back
Diweddariad COVID-19: 13 Ionawr

Mae achosion COVID-19 Caerdydd yn codi, gyda 379.1 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth ar hyn o bryd - i fyny o'r ffigur o 366.3 a gyhoeddwyd ddoe.Aros gartref. Achub bywydau, Diogelu'r GIG.#CadwchGaerdyddYnDdiogel

I gael y diweddaraf am COVID-19 yng Nghymru ewch iwww.llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (02 Ionawr - 08 Ionawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

Mae'r data'n gywir ar:

12 Ionawr 2021, 09:00

Achosion: 1,391

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 379.1 (Cymru: 416.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,806

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,855.0

Cyfran bositif: 20.4% (Cymru: 20.1% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 13 Ionawr 2021

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o 15,024 brechiad.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar  wefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF