Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; a mae'n bosibl y bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu yr wythnos hon.
Mae achosion o COVID-19 yng Nghaerdydd yn parhau i fod yn uchel iawn, ac yn llawer uwch na gweddill Cymru. Dilynwch y rheolau, arafwch y lledaeniad a helpwch i #GadwCaerdyddYnDdiogel
https://llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (18 Rhagfyr - 24 Rhagfyr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
28 Rhagfyr 2020, 09:00
Achosion: 2,013
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 548.6 (Cymru: 495.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 10,886
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,967.0
Cyfran bositif: 18.5% (Cymru: 20.2% cyfran bositif)
Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu yr wythnos hon
Yn anffodus, oherwydd faint o wastraff ac ailgylchu a gyflwynir, a materion argaeledd staff yn ymwneud â'r pandemig presennol, efallai na fyddwn yn gallu casglu'r holl wastraff ar eich diwrnod casglu yr wythnos hon.
Parhewch i gyflwyno'ch gwastraff erbyn 6am ar y diwrnod casglu. Fodd bynnag, os na chesglir eich gwastraff erbyn 10pm, gadewch ef allan fel y gallwn ddod yn ôl atoch. Byddwn yn dychwelyd i gasglu'r gwastraff cyn gynted â phosibl, ac yn anelu at gasglu o fewn 48 awr i'r dyddiad casglu a drefnwyd.
Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth ar hyn o bryd.