Back
Diweddariad COVID-19: 25 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (16 Tachwedd - 22 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

24 Tachwedd

 

Achosion: 649

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 176.9 (Cymru: 188.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,175

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,410.5

Cyfran bositif: 12.5% (Cymru: 12.1% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 25.11.20

Ysgol Uwchradd Willows

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Willows. Mae 4 disgybl o Flwyddyn 7 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Uwchradd Llanisien

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae 36 o ddisgyblion Blwyddyn 12 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Bro Eirwg

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Bro Eirwg. Mae 57 o ddisgyblion Blwyddyn 4 a 2 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.   

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

Mae 9 disgybl o Flwyddyn 9 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.