Back
Diweddariad COVID-19: 23 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Tachwedd - 20 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

22 Tachwedd

Mae'r map hwn yn cyflwyno COVID-19 yn yr un modd ag yr ydym yn trefnu ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, mewn chwe chlwstwr cymdogaeth yng Nghaerdydd, a thri ym Mro Morgannwg:

Achosion: 630

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 171.7 (Cymru: 180.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,901

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,335.8

Cyfran bositif: 12.9% (Cymru: 12.3% cyfran bositif) 

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 23.11.20

Ysgol Uwchradd Cathays

Mae disgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Cathays wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 95 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd Gladstone

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Gladstone wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 17 o ddisgyblion meithrin wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.   

Ysgol Uwchradd Willows

Mae disgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Willows wedi cael prawf COVID-19 positif Mae 9 disgybl wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.