Back
Penodi contractwr i osod cladin newydd ar flociau fflatiau uchel


 

20/11/20
Mae contractwr wedi'i benodi i osod cladin newydd ar dri o flociau fflatiau uchel y ddinas.

 

Yn dilyn proses gaffael gystadleuol, mae'r Cyngor wedi rhoi'r contract i wneud gwaith i wella'r tri bloc tŵr yn fflatiau Lydstep yn Ystum Taf i ISG.

 

Bydd gwaith cyn-adeiladu i gynnig ateb gorchuddio i gymryd lle'r cladin a dynnwyd ddwy flynedd yn ôl yn sgil trychineb Tŵr Grenfell yn dechrau'n fuan gyda'r prif waith, sef gosod y cladin newydd, yn dechrau ar ddechrau Gwanwyn 2021.

 

Tynnwyd y cladin o bump o chwech bloc fflatiau uchel y Cyngor ar ôl i brofion ddangos, er nad oedd unrhyw un o'r adeiladau'n cynnwys ACM, y deunydd a oedd yn gorchuddio Grenfell, nad oedd yn bodloni safonau tân presennol.  

 

Yn dilyn arolygon ac argymhellion gan ymgynghorwyr ar gyfer yr ateb mwyaf priodol, caiff cladin cerameg sy'n seiliedig ar frics ei osod er mwyn gwella effeithlonrwydd thermol yr adeiladau; tra'n cynnal y safonau diogelwch tân uchaf.

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Thorne: "Mae gosod cladin newydd ar fflatiau Lydstep yn gynllun cymhleth iawn ac mae penodi contractwr yn garreg filltir sylweddol ar gyfer y Cyngor a phreswylwyr Lydstep, sydd, rwy'n gwybod, wedi bod yn disgwyl yn frwd am y newyddion hyn ac sy'n awyddus i weld y gwaith yn symud yn ei flaen y flwyddyn nesaf.  

 

"Rydym yn falch o fod yn gweithio gydag ISG yn Lydstep. Yr ateb gwaith brics a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer cladin newydd yr adeiladau yw'r dewis diogelaf ar y farchnad a bydd yn gwella'n sylweddol effeithlonrwydd ynni'r blociau ac yn gwella eu golwg, gan helpu i adfywio'r ardal leol."

 

Dywedodd Richard Skone, cyfarwyddwr rhanbarth ISG: "Diogelwch preswylwyr yw'r hyn sydd wrth wraidd y project hwn, ar ôl i'r Cyngor wneud y penderfyniad cyflym a phendant i dynnu'r cladin oedd yno. Wedi cwblhau'r project, bydd y preswylwyr yn manteisio'n sylweddol ar effeithlonrwydd thermol gwell y system cladin - gyda ffenestri a balconïau newydd a gwell, a fydd hefyd yn gwella golwg y tri bloc."

 

 

Bydd y cynllun gorchuddio blociau fflatiau uchel hefyd yn cynnwys gwaith i adnewyddu'r ffenestri a'r balconïau yn y tri bloc.

 

Bydd y Cyngor yn rhoi £200 i bob aelwyd i wneud yn iawn am gostau gwresogi ychwanegol y gaeaf hwn.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym yn gwybod bod tynnu'r cladin yn 2018 wedi effeithio'n negyddol ar rai preswylwyr a bod y preswylwyr hynny wedi cael problemau yn eu cartrefi. Rydym yn ddiolchgar iawn am amynedd pawb wrth i ni geisio dod o hyd i'r ffordd orau ymlaen."

 

Fflatiau Lydstep yw'r rhai cyntaf i gael cladin newydd mewn rhaglen raddol gwerth £17m i osod cladin newydd yn lle cladin a dynnwyd. Defnyddir dull tebyg i'r un a ddefnyddir yn fflatiau Lydstep yn Nhŷ Nelson a Thŷ Loudoun yn Butetown hefyd. Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau ei rhoi i breswylwyr.