Back
Cyflwyno dau gynllun yng Nghymru i helpu pobl i hunanynysu

30/10/20

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog am Daliadau Hunan-ynysu rydym wrthi'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gwblhau manylion y cynllun.

Byddwn yn diweddaru ein gwefan, y cyfryngau cymdeithasol a'r partneriaid rydym yn gweithio gyda nhw cyn gynted ag y bydd y cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau.

Bydd modd i bobl sydd ar incwm isel wneud cais am daliad o £500 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn gofyn iddynt hunanynysu oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif.

Yn ogystal, mae taliad ychwanegol newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, i gynyddu tâl salwch statudol i'w cyflog arferol os oes rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd bod ganddynt coronafeirws neu oherwydd eu bod yn hunanynysu.

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hyd at £32m ar gael ar gyfer y ddau gynllun i gefnogi pobl ac i ddileu'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu'r rhai sy'n gorfod hunanynysu.

Darllenwch fwy yma:

https://llyw.cymru/cyflwyno-dau-gynllun-yng-nghymru-i-helpu-pobl-i-hunanynysu