Back
Diweddariad COVID-19: 26 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

Arhoswch gartref i achub bywydau.

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

25Hydref

 

Achosion: 1,120

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 305.3 (Cymru: 188.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,791

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,578.3

Cyfran bositif: 19.3% (Cymru: 14.4% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

 

Y diweddaraf am ysgolion yr effeithir arnynt gan COVID-19: 26.10.20

Ysgol Gynradd Adamsdown

Mae un aelod o staff Ysgol Gynradd Adamsdown wedi profi'n bositif. Mae 29 o ddisgyblion a dau aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Bryn Hafod

Mae dau aelod o staff Ysgol Gynradd Bryn Hafod wedi profi'n bositif. Mae 100 o ddisgyblion a 10 aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. 

Ysgol Gynradd Hamadryad

Mae un disgybl Blwyddyn 1 yn Ysgol Hamadryad wedi profi'n bositif. Mae 39 o ddisgyblion a phump aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd Llanisien

Mae un aelod o staff Ysgol Uwchradd Llanisien wedi profi'n bositif.  Mae dau aelod arall o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Parc Ninian

Mae un aelod o staff Ysgol Gynradd Parc Ninian wedi profi'n bositif. Mae 24 o ddisgyblion ac un aelod arall o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gyfun Plasmawr

Mae un disgybl Blwyddyn 8 Ysgol Gyfun Plasmawr wedi profi'n bositif. Mae 14 o ddisgyblion eraill wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Pencaerau

Mae un disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Pencaerau wedi profi'n bositif. Mae 29 o ddisgyblion a thri aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.  

YsgolGynraddPwll Coch

Mae un disgybl Blwyddyn 1 yn Ysgol Pwll Coch wedi profi'n bositif. Mae 40 o ddisgyblion a chwe aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Santes Monica

Mae tri aelod o staff yn Ysgol Gynradd Santes Monica wedi profi'n bositif. Mae 46 o ddisgyblion a 10 aelod arall o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Tongwynlais

Mae un disgybl ac un aelod o staff yn Ysgol Gynradd Tongwynlais wedi profi'n bositif.  Mae 53 o ddisgyblion a 5 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.