Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 23 Hydref

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd yn cwmpasu: newidiadau i wasanaethau Cyngor Caerdydd yn sgil cyfyngiadau ‘Cyfnod Atal' Llywodraeth Cymru; achosion a phrofion COVID-19; diweddariad ar ysgolion a effeithiwyd gan COVID-19; Holi Caerdydd 2020 - Helpwch ni i gynllunio dyfodol ein dinas.

 

Newidiadau i Wasanaethau Cyngor Caerdydd yn sgil cyfyngiadau ‘Cyfnod Atal' Llywodraeth Cymru

Aros gartref. Diogelu'r GIG. Achub bywydau.

Daw cyfyngiadau Cyfnod Atal Llywodraeth Cymru i rym am 6pm heno.

Mae hyn yn golygu, o heno:

  • Rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn, megis ar gyfer ymarfer corff;
  • Rhaid i bobl weithio gartref pan fo hynny'n bosibl;
  • Rhaid i bobl beidio ag ymweld â chartrefi eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydyn nhw'n byw gyda nhw, dan do nac yn yr awyr agored;
  • Ni chaniateir unrhyw gynulliadau yn yr awyr agored;
  • Rhaid i bob busnes manwerthu a lletygarwch, nad ydyn nhw'n rhai bwyd, gwasanaethau cyswllt agos a digwyddiadau a busnesau twristiaeth, megis gwestai, gau;
  • Bydd yn ofynnol i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu gau

Bydd y Cyfnod Atal yn aros yn ei le tan ddydd Llun, 9 Tachwedd, ac oherwydd y cyfyngiadau, mae angen i rai o wasanaethau Cyngor Caerdydd newid.

Mae'r canlynol yn grynodeb o'r newidiadau, a gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar wefan Cyngor Caerdydd yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/newidiadau-i-wasanaethau/Pages/default.aspx

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin ynghylch y Cyfnod Atal Coronafeirws, y gellir eu gweld yma:

https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin

 

Ailgylchu a Gwastraff

Bydd casgliadau gwastraff cyffredinol, ailgylchu a gwastraff bwyd cartrefi yn parhau yn ôl yr arfer yn ystod y Cyfnod Atal.

Mae Canolfannau Ailgylchu Cartrefi wedi gorfod cau oherwydd y cyfyngiadau a byddan nhw'n ailagor ar ddydd Llun 9 Tachwedd.

Fel y cyhoeddwyd eisoes, bydd casgliadau gwastraff gardd yn cael eu hatal ym mis Tachwedd, Rhagfyr a Chwefror i helpu'r cyngor i ddelio â'r pandemig COVID-19 parhaus, ac i sicrhau y gellir parhau i gynnal casgliadau gwastraff, ailgylchu a gwastraff bwyd cyffredinol. Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24917.html

Parciau, Mannau Chwarae a Hamdden

Bydd pob parc a man chwarae yn dal i fod ar agor yn ystod Cyfnod Atal Llywodraeth Cymru.

Mae Canolfannau Hamdden a Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd i gyd wedi gorfod cau gydol y Cyfnod Atal.

Mae Castell Caerdydd hefyd ar gau:

https://www.cardiffcastle.com/news/2020/10/23/closure-firebreak-lockdown/

Mae'r gwaith gwirfoddol o fynd â chŵn am dro yn parhau yng Nghartref Cŵn Caerdydd drwy apwyntiad, ac mae'r cartref yn parhau i dderbyn cŵn strae.  Mae'r cartref ar gau i'r cyhoedd ac mae'r gwaith o ailgartrefu wedi'i atal.

Ysgolion a Phrydau Ysgol am Ddim

Bydd ysgolion yn ailagor ar gyfer disgyblion Blwyddyn 8 ac is ac ar gyfer disgyblion ag Angen Addysgol Arbennig ar ôl yr hanner tymor, ar ddydd Llun 2 Tachwedd.

Bydd disgyblion ym Mlwyddyn 9 ac uwch yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun 9 Tachwedd a darperir dysgu cyfunol gan ysgolion yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar ddydd Llun 2 Tachwedd.

Bydd talebau i'w defnyddio yn ystod wythnos hanner tymor (Dydd Llun 26 Hydref i ddydd Gwener 30 mis Hydref) yn cael eu darparu i blant sy'n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim. Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24995.html

Mae Cwestiynau Cyffredin Ysgolion ar gael yma:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/cwestiynau-cyffredin-i-rieni-a-disgyblion/Pages/default.aspx

Hybiau, Llyfrgelloedd, Cymorth a Chyngor

Bydd Hyb y Llyfrgell Ganolog, The Powerhouse, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái a Chaerau ar agor yn ystod y Cyfnod Atal i gwsmeriaid sydd ag apwyntiadau brys wedi'u trefnu ymlaen llaw, ar gyfer gwasanaethau fel Cymorth i Mewn i Waith, cyngor ariannol a chymorth gyda thai a budd-daliadau. Rhaid i bob hyb a llyfrgell arall gau, a byddan nhw'n ailagor ar ddydd Llun 9 Tachwedd.

Gall unrhyw un sydd angen cymorth ffonio Llinell Gynghori'r Cyngor ar 029 2087 1071. Mae Banciau Bwyd Caerdydd yn parhau ar agor ac mae talebau Banc Bwyd ar gael o'r Llinell Gyngor, neu o un o'r pedwar Hyb  sydd ar agor ar gyfer apwyntiadau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/25039.html

Atgyweirio Tai'r Cyngor

Bydd gwaith atgyweirio a brys yn parhau i gael ei wneud yn ystod y Cyfnod Atal.  Mae gwaith atgyweirio rheolaidd yn cael ei atal tra bo'r cyfyngiadau ar waith.  

Mynwentydd a'r Swyddfa Gofrestru

Bydd mynwentydd ar agor i ymwelwyr yn ystod y Cyfnod Atal.  Mae'r swyddfeydd ym Mynwent y Gorllewin a Mynwent Draenen Pen-y-graig wedi gorfod cau i'r cyhoedd ac mae gwasanaeth ffôn ar waith.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

15 Hydref

 

Achosion: 1,045

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 284.8 (Cymru: 158.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,668

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,544.8

Cyfran bositif: 18.4% (Cymru: 12.9% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

 

Diweddariad ar Ysgolion a effeithiwyd gan COVID-19: 23 Hydref 2020

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant

Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant. Mae 49 o ddisgyblion Blwyddyn 11 a 44 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Gynradd Bryn Hafod

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Bryn Hafod. Mae 10 o ddisgyblion Meithrin a 5 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd Caerdydd
 

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Mae 80 disgybl o Flwyddyn 13 yn hunanynysu ar hyn o bryd ac mae gweddill y grŵp blwyddyn wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.

Ysgol Bro Eirwg
 

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Bro Eirwg. Mae 57 o ddisgyblion Derbyn a 5 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Gynradd Gatholig Pedr Sant
 

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Gatholig Pedr Sant. Mae 53 o ddisgyblion Blwyddyn 2 a 3 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd. 

Ysgol Gynradd Kitchener
 

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Kitchener. Mae 30 o ddisgyblion Blwyddyn 4 ac un aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.  

 

Holi Caerdydd 2020: Helpwch ni i gynllunio dyfodol ein dinas

Mae arolwg blynyddol y Cyngor sy'n rhoi'r cyfle i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd i rannu eu safbwyntiau am wasanaethau cyhoeddus yn y ddinas wedi cael ei lansio.

Bob blwyddyn, mae Holi Caerdydd yn rhoi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr rannu eu barn a'u profiadau o'r cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae'r adborth a gafwyd o'r arolwg yn llywio'r gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau yn y ddinas yn y dyfodol. 

Mae Holi Caerdydd 2020 yn cynnwys amrywiaeth o bynciau gan gynnwys safon y gwasanaethau yn y ddinas, pa mor fodlon yw pobl â'u cymuned fel lle i fyw, eu safbwyntiau o ran swyddi, yr economi a'r amgylchedd lleol yn ogystal â diogelwch cymunedol.

Eleni, mae'r arolwg hefyd yn cynnwys cwestiynau ar farn pobl am sut y dylai Caerdydd adfer o effaith COVID-19 a sut mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw'n bersonol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae barn, profiadau a syniadau preswylwyr am y ddinas gyfan yn ogystal â'u cymdogaeth eu hunain yn bwysig iawn i'n helpu i gynllunio dyfodol ein dinas a rhoi gwell dealltwriaeth i ni o ba mor dda rydym yn perfformio a pha bethau y gellir eu gwella."