Back
Holi Caerdydd 2020: Helpwch ni i gynllunio dyfodol ein dinas
23/10/20
 Mae arolwg blynyddol y Cyngor sy’n rhoi’r cyfle i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd i rannu eu safbwyntiau am wasanaethau cyhoeddus yn y ddinas wedi cael ei lansio.

 

Bob blwyddyn, mae Holi Caerdydd yn rhoi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr rannu eu barn a'u profiadau o'r cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae'r adborth a gafwyd o'r arolwg yn llywio'r gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau yn y ddinas yn y dyfodol. 

 

Mae Holi Caerdydd 2020 yn cynnwys amrywiaeth o bynciau gan gynnwys safon y gwasanaethau yn y ddinas, pa mor fodlon yw pobl â’u cymuned fel lle i fyw, eu safbwyntiau o ran swyddi, yr economi a’r amgylchedd lleol yn ogystal â diogelwch cymunedol.

 

Eleni, mae’r arolwg hefyd yn cynnwys cwestiynau ar farn pobl am sut y dylai Caerdydd adfer o effaith COVID-19 a sut mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw’n bersonol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae barn, profiadau a syniadau preswylwyr am y ddinas gyfan yn ogystal â'u cymdogaeth eu hunain yn bwysig iawn i'n helpu i gynllunio dyfodol ein dinas a rhoi gwell dealltwriaeth i ni o ba mor dda rydym yn perfformio a pha bethau y gellir eu gwella.

 

"Rydyn ni eisiau gwybod a yw pobl yn fodlon neu'n anfodlon ar wasanaethau yn y ddinas a'r ffordd maen nhw'n cael eu darparu, p'un a ydych chi’n credu bod ein gwasanaethau'n rhoi gwerth da am arian ac i ba raddau ydych chi’n teimlo y gallwch ddweud eich dweud ar faterion lleol. Mae'n bwysig ein bod yn clywed gan gynifer o bobl â phosibl o bob rhan o'r ddinas fel bod barn ystod eang o ddinasyddion yn cael ei chynrychioli.

 

"Eleni, mae'r pandemig wedi golygu llawer o newidiadau i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau ar gynifer o wahanol lefelau.  Mae gennym ddiddordeb mewn clywed beth sydd wedi newid i breswylwyr, a sut maen nhw'n teimlo am y newidiadau hynny i'n galluogi i ail-lunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion preswylwyr yn y dyfodol."

 

Mae arolwg Holi Caerdydd yn cymryd tua 20 munud i'w gwblhau ac mae ar gael yma: 

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/dweud-eich-dweud/holi-caerdydd-2020/Pages/default.aspx tan 22 Tachwedd. Bydd preswylwyr sy’n cwblhau’r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill un o ddeg Taleb Love2Shop gwerth £50, y gellir eu gwario mewn amrywiaeth eang o siopau'r stryd fawr.