Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 29 Medi

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; y diweddaraf am achosion sy'n effeithio ar ysgolion; ac ymweld â safleoedd yng Nghaerdydd yn dilyn adroddiadau am dorri rheoliadau Covid.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

28 Medi 2020

Achosion: 279

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 76.0

Achosion profi: 5,262

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,434.2

Cyfran bositif: 5.3%

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion 29 Medi 2020

Ysgol Gyfun Bro Edern

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gyfun Bro Edern. Mae 15 o ddisgyblion Blwyddyn 12 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi'n gysylltiadau agos yr achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunanynysu gan fod mesurau ymbellhau cymdeithasol effeithiol ar waith.

Ysgol Uwchradd Illtud Sant
Mae dau aelod o staff Ysgol Uwchradd Illtud Sant wedi cael prawf COVID-19 positif.
Nid yw'r achosion dan sylw yn gysylltiedig a chan fod mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith yn yr ysgol nid oes angen i unrhyw un arall hunanynysu. 

Ysgol Uwchradd Cathays
Cadarnhawyd achos positif o COVID-19 yn Ysgol Uwchradd Cathays. Mae 110 o ddisgyblion Blwyddyn 7 ac 1 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.  

 

Ymweld â safleoedd yng Nghaerdydd yn dilyn adroddiadau am dorri rheoliadau Covid

Cafodd saith ar hugain o safleoedd yng Nghaerdydd ymweliadau gan swyddogion y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a Heddlu De Cymru y penwythnos diwethaf, yn dilyn adroddiadau am sŵn, ac mewn rhai achosion, torri rheoliadau Covid-19.

Roedd yr ymweliadau'n cynnwys:

 

  • mwy na 100 o bobl yn ymgynnull y tu allan i lety myfyrwyr;
  • parti yn cynnwys mwy na 30 o bobl mewn eiddo rhent Air BnB yn y Rhath ;
  • parti mewn tŷ yn Cathays lle'r oedd mwy na 20 o bobl yn bresennol;
  • parti dan do mewn safle trwyddedig yn ardal Sblot/Adamsdown yn y ddinas lle nad oedd mygydau yn cael eu gwisgo ac nad oedd rheolau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Yn ogystal â nodi eu manylion dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mewn perthynas â chwynion yn ymwneud â sŵn, pan fo'n briodol cyflwynodd y swyddogion Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wybodaeth i denantiaid mewn perthynas â rheoliadau Covid.

Bydd y safle trwyddedig yn destun adolygiad pellach o ran cydymffurfio â Covid-19 gan swyddogion y gwasanaeth yr wythnos hon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'n bwysig bod pobl yn dilyn y rheoliadau Covid-19 sydd wedi cael eu rhoi ar waith i helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel a helpu i arafu trosglwyddiad Covid-19.

"Bydd swyddogion o'n Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn parhau i weithio'n glos gyda Heddlu De Cymru dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod hynny'n digwydd."