Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Medi

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; y diweddaraf am achosion sy'n effeithio ar ysgolion; a gwiriadau cydymffurfio sy'n parhau mewn safleoedd trwyddedig ledled y ddinas.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Mae niferoedd COVID-19 Caerdydd yn parhau i godi. Y diweddaraf: 27.5 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth am y saith diwrnod diwethaf (ffigur cyfatebol ddoe, 23.7)

Dilynwch y canllawiau

Gostyngwch y niferoedd

Osgowch gyfnod cloi lleol

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

#CadwCaerdyddynDdiogel #CadwCymrunDdiogel

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

21 Medi 2020, 13:00

Achosion: 101

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 27.5

Achosion profi: 3,435

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 936.2

Cyfran bositif: 2.9%

 

Diweddariad ar Achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion

Ysgol Gynradd Mount Stuart

Mae disgybl Blwyddyn 1 o Ysgol Gynradd Mount Stuart wedi profi'n bositif am COVID-19.

Mae 60 o ddisgyblion a 9 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. 

Ysgol Gynradd Danescourt

Mae disgybl o'r Dosbarth Derbyn yn Ysgol Gynradd Danescourt wedi profi'n bositif am Covid-19. Mae 52 o ddisgyblion a 9 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. 

Ysgol Gynradd Albany

Mae prawf positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Albany. Mae 24 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 4 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd St Albans

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd St Albans. Mae 28 o ddisgyblion o Flwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn ogystal â thri aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

Ysgol Gynradd Moorlands

Mae dau aelod o staff wedi profi'n bositif am COVID-19 yn Ysgol Gynradd Moorlands a byddant ill dau'n hunan-ynysu. Nid oes angen i eraill hunan-ynysu oherwydd y ffactorau lliniaru sydd ar waith yn yr ysgol ac nid effeithiwyd ar unrhyw ddisgyblion.

 

Gwiriadau cydymffurfio yn parhau

Mae swyddogion trwyddedu o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn parhau i gynnal gwiriadau cydymffurfio ym mhob safle trwyddedig ledled y ddinas.

Mae Hysbysiad Gwella pellach wedi'i gyflwyno i'r Vulcan Lounge/Bar ar Wyverne Road yn Cathays ddydd Gwener (19/09/20), gan nad oedd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn yn y lleoliad.

Mae hyn yn dilyn atal yr Hysbysiad Gwella ar y Mocka Lounge yn Lôn y Felin, yn ogystal â'r newyddion diweddar bod yr Hysbysiadau Gwella ar Peppermint, Gin & Juice, Rum & Fizz a Coyote Ugly bellach wedi'u codi.

Mae gan bob lleoliad gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl sy'n bwyta neu'n yfed yn y sefydliad yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol. Rhaid i brosesau fod ar waith i sicrhau bod mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn a rhaid i system tracio ac olrhain fod ar waith hefyd, gan gasglu enwau a rhifau ffôn cwsmeriaid.

Mae swyddogion trwyddedu yn asesu nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Bod systemau ciwio ar waith y tu allan i fariau a bwytai i sicrhau y dilynir mesurau ymbellhau cymdeithasol
  • Bod y byrddau, y tu mewn a'r tu allan, ddwy fetr oddi wrth ei gilydd
  • Bod gweithdrefnau ar waith i ddelio â phobl nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau, boed hynny o ran ymbellhau cymdeithasol neu gymdeithasu â phobl y tu allan i'w teulu estynedig, neu eu 'swigen'
  • Bod prosesau ar waith i amddiffyn staff.

Yn dilyn cyflwyno hysbysiad cau i'r bar Loco Latin ddydd Llun diwethaf (14/09/20), bydd y lleoliad yn aros ar gau nes bod mesurau digonol yn cael eu rhoi ar waith.