Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 18 Medi

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: y diweddaraf am achosion COVID-19 yng Nghaerdydd a nodyn atgoffa i gymryd gofal dros y penwythnos; apêl arall i bobl gael gwared ar fasgiau, hancesi papur, menig a weips atal bacteria yn gyfrifol; map ffordd i brifddinas decach a mwy cynhwysol; digwyddiad codi arian Parc Bute; a chwblhau gwaith adfer gwlyptiroedd Fferm y Fforest.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Mae disgwyl i'r tywydd braf barhau gydol y penwythnos, felly os byddwch chi allan, cymerwch ofal a chadw'n ymwybodol o covid.

Dilynwch y canllawiau

Helpwch i atal y lledaeniad

Atal gorfod gosod cyfyngiadau'n lleol

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

#CadwCaerdyddYnDdiogel   #CadwCymruYnDdiogel

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

17 Medi 2020, 13:00

Achosion: 55

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 15.0

Achosion profi: 2,759

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 752.0

Cyfran bositif: 2.0%

 

Sut i waredu eich mygydau, menig, hancesi papur a chlytiau gwrth-fac yn ddiogel

Mae hi bellach yn orfodol gwisgo masgiau wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, mae bob un ohonom yn defnyddio hancesi papur, weips gwrth-facterol a thyweli papur mwy nag erioed, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwaredu nhw'n gywir.

Does dim modd ailgylchu'r rhain ac NI ddylid eu rhoi yn eich bagiau ailgylchu.

Er bod hancesi papur wedi'u gwneud o bapur, maent yn ffibrau byr iawn ac nid ydynt o safon ddigon uchel i'w hailgylchu.

Yn lle, dylid eu rhoi yn eich bagiau streipiau coch gwastraff cyffredinol neu finiau du. Bydd gwastraff cyffredinol yn cael ei losgi.

Os oes unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau coronafeirws, megis tymheredd uchel neu beswch, dylech ddyblu'ch bagiau gwastraff cyffredinol os gallwch a'u gadael am 72 awr cyn eu rhoi y tu allan i'w casglu.

Rydyn ni hefyd yn argymell diheintio handlenni'r bin a golchi eich dwylo'n drylwyr cyn ac ar ôl rhoi'r bin allan i'w gasglu.

Helpwch i amddiffyn ein staff a gofalwch am eraill drwy atal trosglwyddo'r feirws gymaint â phosibl.

Os nad ydych chi'n siŵr a ellir ailgylchu eitem, gweler ein tudalen Ailgylchu A-Y:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx

 

Llwybr tuag at brifddinas tecach, fwy cynhwysol

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer cymdeithas decach lle gall pawb rannu yn llwyddiant y ddinas.

Crëwyd strategaeth bedair blynedd newydd i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ac i ddileu unrhyw rwystrau a achosir gan anghydraddoldebau, y gallai preswylwyr eu profi wrth geisio sicrhau gwell canlyniadau yn eu bywydau, er mwyn llunio prifddinas fwy diogel, tecach a mwy cynhwysol.

Mae Strategaeth Cydraddoldeb a Chynhwysiant y Cyngor ar gyfer 2020-2024, a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori â thrigolion, grwpiau cymunedol, staff y Cyngor a phartneriaid, yn seiliedig ar bedwar amcan allweddol a fydd yn cefnogi'r daith i fod yn ddinas fwy cyfartal.

Y pedair nod yw:

Datblygu a darparu gwasanaethau sy'n ymateb i fwlch anghydraddoldeb Caerdydd

Arwain y ffordd ar gydraddoldeb a chynhwysiant yng Nghymru a'r tu hwnt

Mae Caerdydd yn hygyrch i bawb sy'n byw, yn ymweld neu'n gweithio yn y ddinas

Creu sefydliad cynhwysol a chynrychioliadol

Mae'r strategaeth newydd yn nodi sut y bydd y Cyngor yn ceisio cyflawni'r amcanion hyn yn ogystal â chyflawni ei Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus, o dan y Ddeddf Cydraddoldeb megis dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt, yn ogystal â meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24740.html

 

Lansio ymgyrch codi arian i achub 'Pumba' Parc Bute

Mae ymgyrch arloesol i godi arian wedi'i lansio i helpu i achub 'Pumba', nodwedd arddwriaethol boblogaidd iawn ym Mharc Bute.

Wedi'i hysbrydoli gan nodwedd ardd yng Ngerddi Coll Heligan yng Nghernyw, crëwyd ‘Pumba' y baedd yn 2001 gan dîm garddio mewnol y parc. Dros y degawdau mae'r nodwedd wedi dirywio, ar ôl i'w ffens amddiffynnol gael ei thorri dro ar ôl tro. Erbyn hyn mae'r tîm ym Mharc Bute wedi lansio ymgyrch i godi'r arian sydd ei angen i adfer Pumba i'w hen ogoniant, gosod rheiliau amddiffynnol a chadw'r nodwedd mewn cyflwr da am flynyddoedd i ddod.

Mae'r gwaith i adfer Pumba yn broject peilot ar gyfer Cynllun Cyfrannu Project Gwella tymor hirach Parc Bute. Os bydd yn llwyddiannus, bydd y cynllun cyfrannu'n rhoi cyfle i ddefnyddwyr y parc ariannu gwelliannau i'r safle yn uniongyrchol yn ogystal â dylanwadu ar ddethol projectau yn y dyfodol.

Gellir gwneud cyfraniadau trwy ymweld â gwefan Parc Bute:

http://www.bute-park.com/pumba

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24744.html

 

Gwlyptiroedd wedi'u hadfer yn rhan o broject Dim Colled Net

Mae gwaith i adfer cynefinoedd gwlyptir pwysig yn Fferm y Fforest wedi'i gwblhau fyn rhan o'r project 'Dim Colled Net', a ariennir gan Network Rail.

Mae'r project hefyd wedi golygu bod bron 1000 o goed brodorol wedi eu plannu, i gynyddu amrywiaeth rhywogaethau ar y safle. Plannwyd hefyd 5,500 o fylbiau, gan gynnwys clychau'r gog, lili wen fach, garlleg gwyllt, blodyn y gwynt a briallu yn y Warchodfa Natur sy'n eiddo i Gyngor Caerdydd, er budd bioamrywiaeth y cynefin.

Roedd y pibellau sy'n bwydo pyllau'r gwlyptir, sy'n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys Glas y Dorlan, Crehyrod Glas a Dyfrgwn, wedi'u rhwystro'n flaenorol ac roedd lefelau'r dŵr yn rhy isel. Gyda chymorth 2,158 awr o waith gan wirfoddolwyr, mae pibellau newydd wedi'u gosod, a llystyfiant a gwelyau cyrs wedi'u clirio.

Mae Glas y Dorlan yn cael ei weld yn rheolaidd yn Fferm y Fforest ac mae banc nythu newydd hefyd wedi'i adeiladu'n rhan o'r project, er mwyn annog bridio'r rhywogaethau unigryw hyn ymhellach.

Mae gwaith rheoli coetiroedd a gwaith gosod gwrychoedd hefyd wedi'u gwneud ym mlwyddyn gyntaf y project.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24748.html