Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli (14 Medi)

 

07/09/20 - Gofyn i ddisgyblion Ysgol Bro Edern hunanynysu wrth i achos o'r Covid gael ei gadarnhau

Gofynnwyd i 30 o ddisgyblion Ysgol Bro Edern hunanynysu am 14 diwrnod yn dilyn cadarnhau achos o Covid-19 yn yr ysgol ddydd Sul (6 Medi).

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24663.html

 

07/09/20 - 5 bar yng nghanol dinas Caerdydd yn cael rhybuddion gwella diogelwch Covid-19

Cafodd pum bar poblogaidd yng nghanolfan Caerdydd hysbysiadau gwella gan swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir y penwythnos hwn am fethu â chydymffurfio â mesurau iechyd a diogelwch Covid-19 a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24670.html

 

08/09/20 - Gofyn i ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath hunanynysu wedi cadarnhau achos o Covid

Gofynnwyd i 60 o ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath hunanynysu am 14 diwrnod yn dilyn cadarnhau achos o Covid-19 yn yr ysgol.

Darllenwch fwy yma:

 

08/09/20 - Cyhoeddi cynllun i atal COVID-19 rhag lledaenu yng Nghaerdydd a'r Fro

Mae cynllun wedi'i gyhoeddi yn nodi sut y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn parhau i gydweithio i atal COVID-19 rhag lledaenu.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24680.html

 

11/09/20 - Diolch i holl weithwyr gofal cymdeithasol Caerdydd

Mae baneri sy'n talu teyrnged i weithwyr gofal cymdeithasol y ddinas, sydd wedi helpu i ofalu am bobl sy'n agored i niwed yn ystod y pandemig, wedi'u gosod yng Nghastell Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24713.html

 

11/09/20 - Cam arall ymlaen i gynllun adfywio Dumballs Road

Bydd ailddatblygiad safle tir llwyd strategol mawr yng nghanol y ddinas yn camu yn ei flaen y mis hwn. Byddai'r cynllun yn golygu bod mwy na 2,000 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yng nghanol Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24715.html

 

11/09/20 - Gwiriadau cydymffurfio ym mhob lleoliad yng nghanol y ddinas

Bydd swyddogion trwyddedu o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cynnal archwiliadau cydymffurfio ym mhob lleoliad yng nghanol y ddinas heno a thros y penwythnos.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24717.html

 

11/09/20 - Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cynigion ynghylch campws addysg newydd yn y Tyllgoed

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn nodi bod Gweinidog Addysg Cymru wedi cymeradwyo cynigion sy'n ymwneud â chynigion ar gyfer ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 17 Medi

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24719.html

 

11/09/20 - Bil £39 miliwn i Gyngor Caerdydd wedi'r cyfnod cloi a diffyg gwerth £25 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf

Mae delio â COVID-19 wedi costio £39 miliwn i Gyngor Caerdydd ym mhedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24711.html

 

11/09/20 - Cyhoeddi Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol 2019/20 Cyngor Caerdydd

Bydd Cabinet y Cyngor yn derbyn adroddiad sy'n amlinellu gwerthusiad, adborth a chynnydd o ran perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn y cyfarfod ddydd Iau 17, Medi 2020.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24721.html

 

11/09/20 - Gwella safonau mewn Tai Amlfeddiannaeth

Bydd cynllun sy'n rhoi pwerau ychwanegol i'r Cyngor i gyflawni gwelliannau mewn Tai Amlfeddiannaeth yn cael ei ymestyn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24724.html