Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 11 Medi

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cynnwys:  rheoliadau coronafeirws; diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; bil £39m y cyngor dros y cyfnod cloi a bwlch cyllidebol o £25m ar gyfer y flwyddyn nesaf; Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cynigion campws addysg y Cyngor ar gyfer y Tyllgoed; adfywio Dumballs Road; a adroddiad blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rheoliadau coronafeirws

O ddydd Llun 14 Medi ymlaen, bydd yn ofynnol i bob preswylydd yng Nghymru dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, megis siopau. Bydd esemptiadau ac eithriadau a fydd yn cael eu nodi mewn canllawiau.

Am y tro ni fydd angen gwisgo gorchudd wyneb mewn tafarndai a bwytai.

O ddydd Llun 14 Medi ymlaen, byddwn yn cyfyngu ar y niferoedd sy'n gallu cwrdd dan do ar yr un pryd i uchafswm o chwe pherson. Rhaid i'r bobl hynny fod yn perthyn i'r un aelwyd gyfyngol - neu swigen - y gellir ei chreu o bedwar aelwyd yn ymuno â'i gilydd. Ni fydd plant dan 11 oed yn cael eu cynnwys yn y rheol hon.

Bydd y terfyn hwn yn gymwys i leoliadau dan do, gan gynnwys tafarndai a bwytai.  Dylai pobl fynd i dafarndai neu fwytai gydag aelodau eu haelwyd eu hunain neu eu haelwyd estynedig.

Gwnewch eich rhan er mwyn ein helpu i arafu lledaeniad yr haint.

#DiogeluCymru

 

Diweddariad ar Achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori pum disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Bryn Deri i hunan-ynysu am 14 diwrnod gan eu bod wedi dod i gysylltiad agos ag achos o COVID-19 a gadarnhawyd mewn lleoliad cymdeithasol y tu allan i'r ysgol.  

Mae diogelwch a lles pob disgybl yn flaenoriaeth a bydd ysgolion yn parhau i ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ledaenu'r feirws i ddisgyblion, staff, teulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Bydd mwy o waith glanhau'n cael ei wneud mewn ardaloedd o'r ysgolion a ddefnyddiwyd gan y disgyblion.

Bydd ysgolion yn parhau i gefnogi unrhyw ddisgybl y mae angen iddo hunan-ynysu ac yn darparu dysgu ar-lein priodol, a bydd staff yn cyfathrebu â nhw yn rheolaidd hyd nes y gallant ddychwelyd.

 

Bil £39 miliwn i Gyngor Caerdydd wedi'r cyfnod cloi a diffyg gwerth £25 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf

Mae delio â COVID-19 wedi costio £39 miliwn i Gyngor Caerdydd ym mhedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol.

Datgelir y costau enfawr mewn adroddiad i Gabinet y Cyngor a fydd hefyd yn clywed amcanestyniadau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf pan fo rhaid efallai i'r Cyngor ddod o hyd i ffyrdd o bontio bwlch o £25.5 miliwn yn y gyllideb yn 2021/22 er mwyn mantoli'r cyfrifon.

Mae cost £39 miliwn COVID-19 yn cynnwys gwariant a'r incwm a gollwyd. Mae'r Cyngor wedi gwario £26 miliwn ar wasanaethau sy'n mynd i'r afael ag effaith y feirws ac mae £13 miliwn ychwanegol yn incwm a gollwyd.

Mae dadansoddiad o'r amcan gost £26 miliwn i'r Cyngor wrth ymateb i'r pandemig yn cynnwys er enghraifft:

  • £6.3 miliwn ar ofal cymdeithasol i oedolion;
  • £5.2 miliwn ar gyfarpar diogelu personol (PPE);
  • £3.3 miliwn ar roi prydau ysgol am ddim i tua 12,000 o ddisgyblion bob dydd;
  • £1.9 miliwn ar dai i gynorthwyo'r digartref yn ystod y pandemig.
  • £1.6 miliwn ar wasanaethau profedigaeth - (caffael marwdy dros dro);

Mae'r Cyngor hefyd wedi datgelu bod £13 miliwn o incwm wedi'i golli yn ystod yr un cyfnod oherwydd y pandemig.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

  • Colled o £3.5 miliwn mewn ffioedd parcio, cosbau parcio a Throseddau Traffig sy'n Symud;
  • Colled o £2.7 miliwn yn y gwasanaethau diwylliannol;
  • Colled o £1.75 miliwn o incwm arlwyo ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymateb yn gyflym i'r argyfwng, gan newid y ffordd rydym yn gweithio a rhoi ffocws clir ar gynnal gwasanaethau hanfodol sy'n darparu ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi camu i'r adwy gan helpu'r Cyngor i dalu'r costau enfawr hyn. Heb gymorth Llywodraeth Cymru, bydden ni'n wynebu problemau ariannol ofnadwy nawr.

"Fel y mae hi, hyd yn hyn rydym wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru ein had-dalu am tua £21.4 miliwn o wariant, sef yr hyn a warion ni hyd at ddiwedd mis Mehefin, ac mae wedi cytuno i roi £19.6 miliwn i ni. Byddwn yn gwneud cais am arian ar gyfer yr holl wariannau eraill a'r incwm a gollwyd hefyd wrth i ni geisio taclo'r feirws a gwneud popeth y gallwn i gadw pobl yn ddiogel ac i arbed swyddi.

"Os nad yw Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu, rydym yn amcangyfrif y gallwn golli gwerth £34 miliwn o wariant a cholli incwm erbyn diwedd y flwyddyn. Mae'n hanfodol ei bod yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r arian a all eu helpu i oroesi'r argyfwng hwn."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24711.html

 

Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cynigion campws addysg y Cyngor ar gyfer y Tyllgoed

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn nodi bod Gweinidog Addysg Cymru wedi cymeradwyo cynigion sy'n ymwneud â chynigion ar gyfer ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 17 Medi 2020.

Ym mis Mehefin 2019nododd Cabinet Cyngor Caerdydd ymatebion i'r ymgynghoriad ar ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands a chytunodd i fynd ymlaen i'r cam hysbysu statudol ar gyfer y cynigion canlynol:

  • Newid adeiladau Ysgol Uwchradd Cantonian gyda llety adeilad newydd ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth derbyn i wyth dosbarth derbyn gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer hyd at 250 o ddisgyblion;
  • Ymestyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 lle i 30 lle mewn llety pwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;
  • Adleoli Ysgol Uwchradd Woodlands i'r safle ar Doyle Avenue o'r safle presennol cyfagos â Pharc Trelái a chynyddu'r capasiti o 140 i 240 lle mewn adeilad newydd;
  • Adleoli Ysgol Arbennig Riverbank i'r safle ar Doyle Avenue o'i leoliad presennol ger Parc Trelái, gan gynyddu'r capasiti o 70 i 112 o leoedd mewn adeilad newydd.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn rhan o Fand B y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, nodwyd bod angen rhagor o leoedd mewn ysgolion uwchradd a lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar gyfer plant ag anghenion cymhleth."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24719.html

 

Cam arall ymlaen i gynllun adfywio Dumballs Road

Bydd ailddatblygiad safle tir llwyd strategol mawr yng nghanol y ddinas yn camu yn ei flaen y mis hwn. Byddai'r cynllun yn golygu bod mwy na 2,000 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yng nghanol Caerdydd.

Nod cynllun adfywio Dumballs Road yw creu dros 2,000 o eiddo preswyl ochr yn ochr â gofod masnachol a manwerthu ar safle 40 erw yn Butetown fydd yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng canol y ddinas a'r bae ar hyd glannau afon Taf.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn penderfynu a ddylid gwerthu 8.5 erw o dir oddi ar Dumballs Road i'r datblygwr - Vastint - mewn cytundeb fyddai'n galluogi gwireddu'r weledigaeth lawn sydd wrth wraidd y datblygiad.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cyng Russell Goodway: "Mae'r cynllun hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y ddinas a fydd yn creu tai fforddiadwy yn ogystal â chyswllt hir ddisgwyliedig rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd.

"Oherwydd ei orffennol diwydiannol, mae'r tir wedi bod yn anodd ac yn ddrud i'w ddatblygu. Mae hyn, ynghyd â materion cymhleth yn ymwneud â pherchnogaeth tir, wedi arwain at nifer o ymdrechion aflwyddiannus i ailddatblygu. Mae'r tir wedi parhau heb ei ddatblygu ac yn rhannol adfeiliedig am y 30 mlynedd diwethaf. Penderfynodd y Cyngor fod yn rhan o'r ymdrechion, a thrwy weithio ochr yn ochr â'r sector preifat mae wedi gallu cynnig buddsoddiad sydd mawr ei angen fydd yn darparu cartrefi, swyddi a chymuned fywiog newydd mewn ardal sydd wedi dirywio'n rhy hir.  Mae hwn yn gam gwirioneddol ymlaen a bydd yn darparu cynllun o ansawdd yng nghanol y ddinas."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24715.html

 

Cyhoeddi Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol 2019/20 Cyngor Caerdydd

Bydd Cabinet y Cyngor yn derbyn adroddiad sy'n amlinellu gwerthusiad, adborth a chynnydd o ran perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn y cyfarfod ddydd Iau 17, Medi 2020.

Mae Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 2019/20 yn rhoi adborth ar weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad a gwblhawyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac yn adrodd ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion o arolygiadau a/neu adolygiadau ymarfer plant ac oedolion ac yn amlinellu blaenraglen waith Cyngor Caerdydd.

Yn ystod blwyddyn sydd wedi gweld amgylchiadau COVID-19 yn effeithio ar y gwasanaethau i gyd, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith a'r cyflawniadau cadarnhaol sydd wedi parhau i gael eu cyflawni cyn a thrwy gydol yr argyfwng iechyd byd-eang.

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles: "Mae Gofal Cymdeithasol wedi bod yn ganolog i ymateb gwasanaethau cyhoeddus Caerdydd i'r pandemig. Mae wedi golygu ymdrech aruthrol ar ran y sector gofal cymdeithasol cyfan, gan gynnwys gwasanaethau ac unigolion o bob rhan o'r Cyngor i gefnogi'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed. Mae wedi bod yn wirioneddol foddhaus ac yn fraint bod yn rhan ohono. 

O ran y gwasanaethau i oedolion, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr ystod o gynlluniau a gwasanaethau newydd sydd wedi'u darparu'n llwyddiannus gan gynnwys:

 

  • Lansio'r Porth Gofalwyr newydd sy'n cynnig un man ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth i oedolion sy'n ofalwyr yn y rhanbarth
  • Agorwyd gwasanaethau dydd newydd i bobl â dementia yn y Tyllgoed, gan ategu'r gwasanaethau sydd eisoes ar gynnig yn ardal Trelái yn y ddinas
  • Mae Tŷ Canna wedi parhau i ddatblygu gwasanaethau allgymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaeth newydd i bobl ifanc sy'n trosglwyddo i wasanaethau oedolion 
  • Mae'r 'fyddin binc' a'r pwynt mynediad sengl integredig newydd ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty wedi gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gefnogi mwy o bobl i gael eu rhyddhau o'r ysbyty mewn modd amserol. 

Yn ogystal, mae arbenigwyr annibynnol wedi gwerthuso cyfleoedd dydd y Cyngor fel rhai arloesol sy'n torri tir newydd yn y ffordd y maent yn cefnogi pobl i fod yn annibynnol ac yn byw bywydau bodlon yn y gymuned.

Yn y Gwasanaethau Plant, mae datblygiadau gwasanaeth newydd sylweddol wedi'u darparu dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys lansio Gwasanaeth Cynghori Teuluoedd Caerdydd, sy'n darparu un pwynt cyswllt i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd lle gellir eu cyfeirio at amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth, yn ogystal â lansio Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc YMCA a roddodd gymorth y mae mawr ei angen i ofalwyr ifanc yn ystod y cyfnod cloi.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'n fraint enfawr gweithio gyda phobl sy'n mynd drwy gyfnod o salwch, anabledd, straen a heriau eithafol ac ochr yn ochr â hwy, i gefnogi newid cadarnhaol ac ansawdd bywyd. 

"Mae gwrando ar straeon unigol pobl sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau mor bwysig o ran dathlu ac adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda, a bod yn agored i welliannau pan fo'u hangen. Mae'r gwasanaethau a ddarparwn yn bwysig nid yn unig am eu bod yn uchafbwynt cymaint o waith, ond oherwydd yr effaith a wnânt ar fywydau pobl ag anghenion gofal a chymorth."

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24721.html