Back
Gwella safonau mewn Tai Amlfeddiannaeth

 

11/09/20
Bydd cynllun sy'n rhoi pwerau ychwanegol i'r Cyngor i gyflawni gwelliannau mewn Tai Amlfeddiannaeth yn cael ei ymestyn.

 

Cyflwynodd Cyngor Caerdydd gynllun trwyddedu ychwanegol yn ward Plasnewydd yn 2014 yn dilyn llwyddiant gweithredu'r un mesurau yn Cathays yn 2010.

 

Nod y cynlluniau yw gwella safon eiddo rhent amlfeddiannaeth yn ogystal â materion cymunedol ehangach fel gwastraff, ymddygiad gwrthgymdeithasol, effeithlonrwydd ynni a diogelwch eiddo. Gan gwmpasu'r rhan fwyaf o eiddo rhent sydd â thri neu fwy o feddianwyr, sy'n ffurfio dwy aelwyd neu fwy, maent yn rhan o ateb effeithiol i effaith y boblogaeth uchel o fyfyrwyr sydd yn yr ardaloedd penodol hyn.

 

Mae tymor pum mlynedd dynodedig cyntaf cynllun Plasnewydd wedi dod â manteision sylweddol drwy sicrhau tai gwell a manteision cymunedol ehangach. Ond gyda thystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio parhaus â gofynion statudol yn y sector rhentu preifat, mae'r Cyngor yn bwriadu ail-ddatgan y ward fel ardal drwyddedu ychwanegol, er mwyn adeiladu ar y llwyfan cadarnhaol sydd eisoes wedi'i sefydlu.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar yr ail-ddatgan ddiwedd y llynedd. Byddai'r ail ddynodiad arfaethedig yn dechrau ar 1 Ionawr 2021 i redeg am gyfnod o bum mlynedd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol wedi bod yn adnodd gwerthfawr wrth gymhwyso safonau a gwelliannau i nifer fawr o eiddo ym Mhlasnewydd a fyddai fel arall wedi'u heithrio o'r gyfundrefn drwyddedu, ond mae llawer i'w wneud eto i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwireddu'n llawn.

 

"Mae llety rhent preifat yn sector pwysig o'r farchnad dai yng Nghaerdydd. Mae'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol yn allweddol i sicrhau safonau llety gwell, rheoli eiddo'n well a gwell diogelwch i denantiaid, a gwelliannau i'r gymuned ehangach."

 

Bydd y Cabinet yn ystyried yr argymhelliad i ail-ddatgan Plasnewydd fel Ardal Trwyddedu Ychwanegol yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 17 Medi.  Argymhellir hefyd y dylai'r Cabinet gymeradwyo ymgynghoriad ar ail-ddatgan cynllun Trwyddedu Ychwanegol Cathays. Daw'r cynllun presennol i ben ar 1 Ionawr 2021.