3/9/20
Mae dau lyfr digidol newydd i helpu plant a theuluoedd i ddysgu mwy am y
Coronafeirws bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, diolch i wasanaeth Hybiau
a Llyfrgelloedd Caerdydd a thîm Caerdydd Ddwyieithog y Cyngor.
Hwylusodd llyfrgellwyr o’r gwasanaeth gydweithio rhwng cyhoeddwyr y
llyfrau a thîm Caerdydd Ddwyieithog, sy’n cyfieithu mwy na 12 miliwn o eiriau i
Gymraeg bob blwyddyn, i sicrhau y gall plant a theuluoedd ledled Cymru
fwynhau’r llyfrau yn Gymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg.
Cynhyrchwyd y llyfrau llun, sy’n cynnwys y cymeriad Doctor Ci, gan y
darlunydd Lydia Monks a’r Athro James G Logan o Ysgol Hylendid a Meddygaeth
Drofannol Llundain.
Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Doctor Ci, i greu wyneb
cyfeillgar sy’n gallu addysgu a thawelu meddyliau plant ifanc ynglŷn â’r
Coronafeirws. Mae’r ail lyfr, Doctor Ci yn Egluro Dychwelyd i’r Ysgol, wedi’i
anelu at gefnogi plant i addasu at fynd yn ôl i’r ysgol ar ôl y cyfnod hir o
ddysgu gartref. Mae’r llyfr, sydd
wedi’i ysgrifennu mewn iaith glir ac addas i blant, yn cynnwys gwybodaeth syml
a dibynadwy am y pandemig, cyngor i blant ar sut i gadw’n ddiogel, a thawelwch
meddwl i deuluoedd am ddychwelyd i’r ysgol.
Mae’r ddau deitl bellach ar gael i’w lawrlwytho,
darllen ar-lein neu eu hargraffu am ddim ar gatalog ar-lein Llyfrgelloedd
Caerdydd yma: https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y
Cynghorydd Lynda Thorne: “Mae Gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd wedi
ymrwymo i ddarparu ystod eang o adnoddau i gwsmeriaid yn Gymraeg a
Saesneg. Rydym yn falch iawn o fod yn
gallu hwyluso’r cydweithio hwn rhwng cyhoeddwyr y llyfrau a’n tîm Caerdydd
Ddwyieithog ein hunain, sy’n gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn
y ddinas a chefnogi ein timau i sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau i
drigolion yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd.
“Bydd y bartneriaeth hon yn sicrhau, nid yn unig y
gall plant a theuluoedd yng Nghaerdydd gael mynediad at yr adnodd defnyddiol
hwn yn Gymraeg, ond y bydd llyfrgelloedd ledled Cymru yn gallu cynnig y llyfr
hwn yn ddwyieithog i’w cwsmeriaid hefyd.
“Rydym yn gobeithio y bydd ein darllenwyr ifanc yn
cael y llyfr yn ddifyr ac y bydd yn tawelu meddyliau, gan ateb unrhyw
gwestiynau sydd ganddynt am y cyfnod rhyfedd hwn, a’u helpu i baratoi at
ddychwelyd yn llawn i’r ysgol dros yr wythnosau nesaf. Rydym yn ddiolchgar i Lydia Monks ac i’r
Athro James G Logan am weithio gyda ni i beri i hyn ddigwydd.”
Dywedodd yr Athro James Logan, “I lawer o bobl
ifanc yn y DU, mae’r pandemig coronafeirws yn gyfnod o ansicrwydd, dryswch a
phryder, gyda llawer o wybodaeth ffug ar-lein.
Fel rhiant fy hun, roeddwn i’n teimlo bod ychydig o fwlch o ran cynnig
gwybodaeth gywir i blant mewn ffordd bleserus na fyddai’n codi ofn arnynt.”
Dywedodd Lydia Monks, “Mae’n gyfnod rhyfedd i
blant, rhieni ac athrawon, ac mae llawer ohonom yn poeni am ddechrau yn ôl yn
yr ysgol. Rydym yn gobeithio y bydd
Doctor Ci yn tawelu meddyliau’r rhai bach, ac yn helpu i esbonio beth sy’n
wahanol o bosibl am y tymor ysgol newydd hwn.
Efallai y bydd rhai pethau ychydig yn wahanol, ond bydd yn hyfryd i bawb
weld eu holl ffrindiau eto. Mae Doctor
Ci yn codi llaw, ac yn dymuno pob lwc i chi i gyd!”
Mae ystod eang o lyfrau plant ar gael i’w benthyg
gan Lyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd, trwy’r gwasanaeth clicio a chasglu. Gall aelodau’r llyfrgell ffonio ein Llinell
Llyfrgelloedd ar 029 2087 1071, opsiwn 2 i ofyn am ddetholiad o lyfrau, neu
deitlau penodol os ydynt ar gael, i’w casglu o un o hybiau a llyfrgelloedd y
ddinas, sydd ar agor ar hyn o bryd.
Gellir archebu’r teitlau ar-lein hefyd o https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/card_en, sydd hefyd yn darparu
mynediad at ystod eang o adnoddau gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau clywedol ac
e-gylchgronau i’w lawrlwytho am ddim.
I gael rhagor o
wybodaeth am y Llyfrau Doctor Ci ewch i https://www.lydiamonks.com/dr-dog/