Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli (24 Awst)


18/08/20 - Celfyddydau Ymladd Caerdydd yn ailgychwyn eu hyfforddiant yn y cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute

Mae Celfyddydau Ymladd Caerdydd wedi symud eu hystod o ddosbarthiadau i'r cyrtiau awyr agored dros dro ym Mharc Bute ger ystafelloedd newid y Gored Ddu gan fod eu lleoliadau dan do arferol wedi cau oherwydd y pandemig.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24549.html

 

18/08/20 - Ailagor Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn ailagor i ymwelwyr sy'n archebu ymweliadau ymlaen llaw o yfory, Awst 19, ar ôl cwblhau gwiriadau trylwyr a rhoi mesurau ar waith i sicrhau iechyd a diogelwch cwsmeriaid.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24556.html

 

19/08/20 - Teyrnged farddonol i weithiwr allgymorth digartref wnaeth 'achub bywyd'

Mae mam ddiolchgar i ddyn o Gaerdydd fu'n cysgu ar strydoedd y ddinas wedi anfon neges bwerus o ddiolch i'r tîm a helpodd ei mab i sicrhau newid go iawn yn ei fywyd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24563.html

 

20/08/20 - Canlyniadau TGAU Caerdydd 2020

Mae disgyblion Blwyddyn 11 ar draws Caerdydd wedi cael eu canlyniadau TGAU heddiw, a chafodd llawer ohonynt eu cyflwyno dros y we oherwydd COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24573.html

 

21/08/20 - Pedair ardal chwarae ychwanegol i ailagor ddydd Sadwrn

Bydd pedair ardal chwarae i blant ychwanegol yng Nghaerdydd yn ailagor o 12pm ddydd Sadwrn 22 Awst, sy'n golygu bod 104 o ardaloedd chwarae bellach ar agor eto.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24582.html