Back
Canlyniadau TGAU Caerdydd 2020

20/08/20

Mae disgyblion Blwyddyn 11 ar draws Caerdydd wedi cael eu canlyniadau TGAU heddiw, a chafodd llawer ohonynt eu cyflwyno dros y we oherwydd COVID-19.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn garreg filltir bwysig ym mywydau pobl ifanc, yn nodi dechrau pennod newydd yn eu bywydau, boed nhw'n mynd ymlaen i addysg ôl-16, i gyflogaeth neu i raglenni hyfforddi.

"Wynebodd y grŵp yma o fyfyrwyr blwyddyn 11 set eithriadol o heriau oherwydd yr argyfwng iechyd a chânt eu hadnabod o hyd am oresgyn y rhain. Maent hefyd wedi gorfod delio ag ansicrwydd ychwanegol ynglŷn â'r ffordd y byddai graddau'n cael eu cyfrifo.

"Hoffwn longyfarch holl fyfyrwyr Caerdydd wrth iddynt ddathlu eu gwaith caled, a dechrau edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous a newydd." 

O ystyried y penderfyniad i ganslo arholiadau'r haf hwn o ganlyniad i'r pandemig, mae CBAC wedi datblygu proses sy'n caniatáu i raddau gael eu seilio ar Raddau Asesiad Canolfan a Threfnau Rhestrol sydd wedi eu cyflwyno gan athrawon/darlithwyr.

Yn dilyn ymgynghoriad â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a gynhaliwyd gan Cymwysterau Cymru, mae CBAC wedi datblygu dau fodel safoni ystadegol, sydd wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, ac wedi eu cymhwyso fel rhan o'r broses cyhoeddi graddau ar gyfer cyfres arholiadau haf 2020.

Ar 17 Awst, cadarnhaodd y Gweinidog dros Addysg yng Nghymru y byddai Safon Uwch, UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a graddau Bagloriaeth Cymru yng Nghymru yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau Asesiadau'r Ganolfan. Cyhoeddwyd hefyd y cynhelir adolygiad annibynnol ar y digwyddiadau ar ôl canslo arholiadau.

Cadarnhaodd diweddariad pellach gan CBAC ar 19 Awst "y câi dysgwyr TGAU CBAC, TGAU Eduqas, Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru (CA4 ac Ôl-16 Sylfaen a Chenedlaethol), Dyfarniadau a Thystysgrifau Galwedigaethol Lefel 1/2*, Cymwysterau Cyffredinol Eraill Lefel 1/2 (Lladin a Mathemateg Ychwanegol) a dysgwyr Lefel Mynediad y radd orau allan o'r radd a gyfrifwyd neu'r graddau a aseswyd yn y ganolfan." Hefyd, cyhoeddodd CBAC eu bod, "yn aros am gadarnhad ynghylch y newidiadau yn yr apeliadau gan reoleiddwyr a bydd yn rhoi rhagor o wybodaeth cyn gynted â phosibl."

Yn ogystal, mae'r broses o Lacio Gofynion Adrodd mewn Ysgolion (Cymru) (Coronafeirws) yn diwygio nifer o reoliadau i leihau'r gofynion ar ysgol yn 2019/20.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu 'Na fydd data dyfarniadau cymwysterau yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar ganlyniadau cyrhaeddiad ar lefel ysgol, awdurdod lleol neu gonsortiwm rhanbarthol ac ni ddylid ei ddefnyddio i ddwyn ysgolion i gyfrif am ganlyniadau eu dysgwyr.'

Roedd y cyhoeddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y bydd yn dal yn ofynnol i bob ysgol a darparwr ôl-16 gynnal hunanwerthusiad effeithiol er mwyn cefnogi gwelliant parhaus.

Bydd hyn yn cynnwys ysgolion, gyda chymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ganddynt ar lefel dysgwyr am gyrhaeddiad a chanlyniadau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol a'u gwella.

Mae Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob person ifanc yn cael ei gefnogi trwy'r cyfnod pontio. Bydd 'Addewid Caerdydd' i bobl ifanc, sy'n dwyn gwasanaethau'r Cyngor a phartneriaid ar draws y ddinas ynghyd i gynorthwyo pob person ifanc i gyrraedd eu potensial llawn, yn sicrhau bod cyngor a chymorth ar gael yn hawdd i bawb sy'n gadael yr ysgol ac y gallai fod angen cymorth arnynt gyda'u camau nesaf.

Mae'r Cyngor a nifer o sefydliadau eraill wedi paratoi Cyfeiriadur Cynghori, sy'n cynnwys dolenni i amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth y gellir eu gweld ar ffurf rithwir a thrwy apwyntiadau wyneb yn wyneb. I weld y Cyfeiriadur Cynghori i'r Rhai sy'n Gadael yr Ysgol, ewch i:  www.caerdydd.gov.uk/gadaelyrysgol

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae'r cyfnod pontio ar gyfer dysgwyr o'r ysgol i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant yn gyfnod anhygoel o bwysig i bobl ifanc ac mae'n hanfodol bod y gefnogaeth a'r cyngor iawn ar gael iddyn nhw.  Dyna pam mae timau ar draws y Cyngor wedi gweithio gydag ysgolion a phartneriaid allanol i sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sydd ei angen."

Nodiadau: