Back
Darpariaeth Ôl-16 ar gael o hyd mewn lleoliadau Chweched Dosbarth

28/7/2020 

Mae nifer o leoedd ar gael mewn lleoliadau chweched dosbarth ledled y ddinas ar gyfer mis Medi, ac anogir disgyblion sy'n cwblhau Blwyddyn 11 yr haf hwn i ddarganfod yr ystod amrywiol o opsiynau sydd ar gael iddynt.

O Seiber-Ddiogelwch a'r Celfyddydau Perfformio i Wyddoniaeth Amgylcheddol a Theithio a Thwristiaeth, mae gan ddarpariaeth Ôl-16 Caerdydd ar gyfer y flwyddyn Academaidd 2020/21 ddewis amrywiol a diddorol o gyrsiau ar gael.

Yn ogystal, gall rhai lleoliadau chweched dosbarth dderbyn disgyblion o hyd ar rai o'r pynciau mwy traddodiadol fel Mathemateg, y Gyfraith, Hanes ac Astudiaethau Busnes.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n bosibl bod pobl ifanc ledled y ddinas yn teimlo'n bryderus neu'n ofidus yn dilyn ychydig o fisoedd aflonydd a heriol, ar gyfer eu haddysg a'u bywydau yn gyffredinol.

"Ar ôl i arholiadau gael eu canslo a model newydd ar gyfer y ffordd y dyfernir cymwysterau gael ei roi ar waith, mae'n hanfodol y caiff disgyblion Blwyddyn 11 eu cefnogi a'u cyfeirio at yr ystod o gyfleoedd rhagorol sydd ar gael iddynt, ar ôl y TGAU.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Mae gan Gaerdydd rhai cyfleusterau Ôl-16 rhagorol gydag amrywiaeth wych o gyrsiau a phynciau.  Nid yw'r rhai sy'n disgwyl canlyniadau TGAU y mis hwn yn rhwym i ddychwelyd at eu hysgolion blaenorol ychwaith, ond yn lle hynny dylent ystyried eu diddordebau unigol ac archwilio'r holl ddewisiadau sy'n agored iddynt, ar draws y ddinas i gyd."

Mae rhai enghreifftiau o gyrsiau sydd ar gael gan leoliadau chweched dosbarth eleni yn cynnwys:

Mae gan Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Radur gyrsiau ar gael yn y cyfadrannau canlynol:  Gwyddoniaeth, Technoleg, Mathemateg, Busnes ac Economeg , Saesneg, y Celfyddydau Creadigol, Cyfrifiaduro a TGCh, Addysg Gorfforol a Chwaraeon, Ieithoedd, y Dyniaethau a Bagloriaeth Cymru.

https://radyrcs.co.uk/?page_id=1034


Mae Chweched Dosbarth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn cynnig y cyrsiau Lefel 3 canlynol: Celf a Dylunio, Astudiaethau Busnes, Troseddeg, Seiber-Ddiogelwch, Saesneg, Gwyddor yr Amgylchedd, Trin Gwallt, Hanes, y Gyfraith, Mathemateg, Gwyddor Feddygol, y Celfyddydau Perfformio a TG BTEC.

http://app.prmax.co.uk/collateral/168250.pdf


Mae Chweched Dosbarth Ysgol Uwchradd Cathays yn cynnig ailsefyll TGAU a'r pynciau Lefel 3 canlynol:
TG-UG, Astudiaethau Busnes, Celf, Hanes, Cymdeithaseg, Seicoleg, Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol BTEC, Gwyddor Feddygol CBAC.

https://www.cathays.cardiff.sch.uk/sixthform


Mae gan Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant y cyrsiau Lefel 3 canlynol: Celf, Bioleg, Busnes, Cemeg, Troseddeg, Peirianneg Dylunio Technoleg, Cynnyrch Dylunio Technoleg, Economeg, Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg, Mathemateg Bellach, Daearyddiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Hanes, Bioleg Dyn, TGCh, Addysg Gorfforol, Ffiseg, Seicoleg, Astudiaethau Crefyddol, Teithio a Thwristiaeth a Chymraeg.

http://www.stteilos.com/students/sixth-form/

 

I gael mwy o wybodaeth am ofynion lefel mynediad a sut i wneud cais, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol.

Mae cyrsiau'n dibynnu ar leoedd sy'n weddill, yn amodol ar fod â'r gofynion mynediad cywir a'r cyfuniad o bynciau sy'n bosibl mewn amserlen.