Back
Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yn ailagor yr wythnos nesaf yn dilyn arolygiadau

24/07/20

Bydd 20 yn fwy o ardaloedd chwarae plant yng Nghaerdydd yn cael eu hailagor Ddydd Llun (27 Gorffennaf) yn dilyn y 30 safle cyntaf i gael eu hagor yr wythnos ddiwethaf.

Bydd yr ardaloedd chwarae yn cael eu hailagor yn raddol, yn dilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Yr 20 ardal chwarae a fydd yn agor o amser cinio Ddydd Llun yw:

Gofod agored Adamscroft(Adamsdown);Rhodfa Belmont (Butetown; Esplanâd Windsor(Butetown);Parc Trelái(Caerau);Llwybr Chwarae Parc Bute(Cathays);Parc Maendy(Cathays);Cilgant Whitland(y Tyllgoed);Parc Maitland(Gabalfa);Heol y Delyn(Llys-faen);Sgwâr Watkin(Llanisien);Waun Fach(Pentwyn);Parc Coed y Nant(Pentwyn);Heol Penuel(Pentyrch);Sovereign Chase(Penylan);Fferm Cwm - Plant Iau(Radur);Fferm Cwm - Plant Bach(Radur);Parc Sblot(Sblot);Parc Tremorfa(Sblot);Parc Treftadaeth(Trowbridge);Hollybush(Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais).

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch mae pob safle wedi mynd drwy asesiad risg Covid-19 ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd maes chwarae, cyn eu hail-agor.

Mae newidiadau wedi eu gwneud i helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o drosglwyddo Covid-19 - er enghraifft, mae seddau rhai siglenni wedi eu tynnu i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gadw.

I helpu i sicrhau diogelwch, mae arwyddion newydd wedi eu gosod ar y safleoedd hefyd, yn gofyn i deuluoedd sy'n eu defnyddio:

  • olchi neu ddiheintio eu dwylo, cyn, ar ôl ac wrth ddefnyddio'r cyfarpar;
  • cadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill nad ydynt yn rhan o'u cartref;
  • cyfyngu eu hymweliad i 30 munud yn ystod adegau prysur;
  • cael uchafswm o un oedolyn fesul plentyn yn yr ardal chwarae.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gwyddom fod teuluoedd yn awyddus i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn unwaith eto, ond er ein bod yn edrych ymlaen at weld plant yn mwynhau ein hardaloedd chwarae eto, mae'n bwysig iawn eu bod yn gallu gwneud hynny'n ddiogel.

"Mae ein tîm bach o arolygwyr meysydd chwarae cymwys yn gweithio'n galed i asesu risg, archwilio, atgyweirio a newid offer yn yr 116 o gyfleusterau sydd gennym cyn gynted â phosibl, cyn iddynt ailagor, ac rydym yn gobeithio y bydd ein holl ardaloedd chwarae yn agor eto yn fuan.

"Tan hynny, ac rwy'n deall pa mor anodd y gall fod, mae'n bwysig am resymau diogelwch nad yw rhieni yn caniatáu i blant ddefnyddio unrhyw fannau chwarae sydd heb eu hagor yn swyddogol."

"Mae angen i deuluoedd sy'n ymweld ag ardaloedd chwarae hefyd gymryd cyfrifoldeb am gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, cadw pellter cymdeithasol a sicrhau bod y dwylo'n cael eu golchi cyn ac ar ôl eu hymweliad."

Y 30 man chwarae sydd eisoes ar agor yw:

Sgwâr Adamsdown(Adamsdown); Sgwâr Hodges(Butetown); Sgwâr Loudon (Butetown); Rhodfa Craiglee(Butetown); Clos Emblem(Caerau);Heol Homfrey(Caerau); Parc Jiwbilî(Treganna); Heol Sanatoriwm - Plant Bach(Treganna); Gerddi Cogan(Cathays); Heol Green Farm(Trelái); Heol Beechley(y Tyllgoed); Clos Chorley(y Tyllgoed); Heol Maitland - ardal ymarferion ystwytho(Gabalfa); Parc ‘y Tan'/Sevenoaks(Grangetown); Y Marl - Plant Bach(Grangetown); Y Marl - Plant Iau(Grangetown); Rhodfa Mill Heath(LIys-faen); Cilgant St Martin - Plant Bach(Llanisien); Cilgant St Martin - Plant Iau(Llanisien); Coed y Gores(Pentwyn); Chapelwood(Pentwyn); Garth Olwg(Pentyrch); Gerddi Cyncoed(Penylan); Gerddi Shelley(Plasnewydd); Parc ButterfieldPontprennau / Llaneirwg); Rhodfa Fisher Hill(Radur / Pentre Poeth); Stryd Wyndham(Glan yr Afon); Sgwâr Beaufort(Sblot); Clos Wilkinson (Sblot); Heol Maes Eirwg(Trowbridge).

Bydd mwy o safleoedd yn cael eu hail agor Ddydd Llun 3 Awst. Dilynwch ni ar Twitter @cyngorcaerdydd neu ar Facebook @cardiff.council i gael diweddariadau.