Back
Y 10 eitem y chwilir amdanynt fwyaf ar ein tudalennau ailgylchu A-Y - Ydych chi’n gwybod ble i rhoi’ch eitemau?

24.07.2020

Mae'r eitemau y chwilir amdanynt fwyaf ar ein tudalennau ailgylchu A-Y wedi'u datgelu ac efallai y cewch eich synnu at rai o'r eitemau na ddylech eu rhoi yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd.

Dyma'r 10 eitem y chwilir amdanynt fwyaf:

  1. Polystyren

Deuir o hyd i hwn yn aml mewn blychau nwyddau wedi'u danfon atoch. Gallwch fynd â pholystyren i'ch Canolfan Ailgylchu leol os yw'n fawr iawn ac nad ydych yn gallu ei dorri.

Rhaid i chi drefnu eich ymweliad â'r Ganolfan Ailgylchu ymlaen llaw. Trefnwch eich slot  yma.

Os ydych yn gallu torri polystyren yn ddarnau llai, rhowch ef Y TU MEWN i'ch bagiau streipiau coch neu eich biniau du. Peidiwch â'i roi y tu allan i'ch bin neu'ch bagiau ar y palmant nac yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd.

  1. Ffoil alwminiwm

Cyfeirir ato hefyd fel 'ffoil tin' neu 'ffoil' yn unig. Gellir rhoi'r stwff y byddwch yn lapio'ch brechdanau ynddo yn eich bag ailgylchu gwyrdd.

Rholiwch y ffoil yn belen cyn ei roi yn y bag, a gwnewch yn siŵr ei fod yn lân.

  1. Cartonau Tetra Pak

Eitemau fel cartonau sudd oren, llaeth a sŵp yw Tetra Pak.

Ni allwn dderbyn cartonau Tetra Pak yn y bagiau ailgylchu gwyrdd oherwydd eu bod o ddeunydd cymysg.

Rhowch nhw yn y banciau ailgylchu arbennig ar gyfer cartonau Tetra Pak yng nghanolfan ailgylchu Bessemer Close.

  1. Plastig

Ailgylchwch boteli, tybiau, potiau, a chynwysyddion plastig yn eich bag ailgylchu. Golchwch nhw yn gyntaf er mwyn sicrhau eu bod yn lân heb unrhyw fwyd dros ben ynddynt.

  1. Pecynnu Cardfwrdd

Dewiswch gynhyrchion sydd wedi'u pecynnu cyn lleied â phosibl.

Gallwch ailgylchu cardfwrdd yn eich bag ailgylchu gwyrdd.  

Gallwch roi unrhyw flychau cardfwrdd sy'n rhy fawr i'ch bag gwyrdd ar y stryd cyn belled â'u bod yn sych ac yn fflat. 

Mae'n anodd ailgylchu cardfwrdd gwlyb, felly os yw hi'n debygol o fwrw glaw cyn eich casgliad nesaf, torrwch y cardfwrdd yn ddarnau llai a'u rhoi yn y bag gwyrdd, neu ewch â'r cardfwrdd i'ch canolfan ailgylchu leol.

 

  1. Bagiau  

Mae gan lawer o archfarchnadoedd mawr fanciau ailgylchu, ond mae'r rhan fwyaf o'r rhain ar gau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig presennol.

Cadwch nhw nes bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau neu ailgylchwch ac yn ailddefnyddio eich bagiau.

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio eich bagiau siopa plastig neu'n defnyddio 'Bagiau am Oes' pan fyddwch yn siopa.

Os oes gennych fagiau lledr neu decstilau diangen, holwch eich siop elusen leol a ydynt yn derbyn rhoddion.

 

  1. Plastigau Caled  

Mae'r rhain yn cynnwys eitemau megis dodrefn gardd plastig a theganau plastig. 

Gellir rhoi plastigau caled yn y Sgipiau Plastigau Caled yn eich canolfan ailgylchu leol.

Rhaid i chi drefnu eich ymweliad â'r Ganolfan Ailgylchu ymlaen llaw. Trefnwch eich slot  yma

Peidiwch â rhoi plastig caled yn eich bagiau ailgylchu. 

 

  1. Deunydd Lapio Swigod  

Ni ellir ailgylchu deunydd lapio swigod, felly gallech chi ailddefnyddio i lapio pethau gwerthfawr sy'n cael eu storio neu sy'n cael eu hanfon drwy'r post.

Gall rhai siopau elusennol hefyd ei gymryd i lapio nwyddau. Holwch eich siop elusen leol a fydd yn ei dderbyn ynghyd â'ch rhoddion.

 

  1. Hambyrddau prydau parod du plastig

Newyddion da - gallwch ailgylchu hambyrddau prydau parod yn eich bag ailgylchu. Gallwn eu gwahanu a'u hanfon i gael eu didoli a'u prosesu ymhellach.

Cyn ailgylchu, tynnwch y caead ffilm plastig oddi ar yr hambwrdd pryd parod a'i roi yn eich bag streipiau coch neu eich bin du.

 

  1. Caniau erosol/diaroglyddion

Mae modd ailgylchu erosolau alwminiwm gwag yn eich bag gwyrdd. Tynnwch y caead plastig a gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw gynnyrch na nwy ar ôl yn y can cyn ei roi allan i'w gasglu.

Beth am unrhyw beth arall?

Mae ein tudalen ailgylchu A-Y ar gael ar ein gwefan pan nad ydych yn hollol siŵr os gall eich eitem gael ei rhoi yn eich bag ailgylchu gwyrdd.

Dyma'r wefan.