Back
Diogelwch yn gyntaf wrth i'r gwaith ddechrau ar ailagor Ardaloedd Chwarae Plant Caerdydd

10/07/20 

Mae gwaith wedi dechrau i sicrhau bod ardaloedd chwarae plant a chyfarpar ffitrwydd awyr agored ym Mharciau Caerdydd yn ddiogel i'w defnyddio, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bodd modd iddyn nhw bellach ailagor i'r cyhoedd.

Mae gan Gaerdydd fwy na 100 o ardaloedd chwarae a naw ardal ffitrwydd awyr agored a bydd angen cynnal archwiliadau diogelwch ym mhob safle cyn y gellir eu hailagor i'r cyhoedd.

Er mwyn sicrhau bod gan bob ardal yng Nghaerdydd rywfaint o ddarpariaeth i blant gael chwarae yn yr awyr agored cyn gynted â phosibl, bydd yr archwiliadau hyn ac unrhyw waith angenrheidiol i adfer neu atgyweirio cyfarpar yn cael eu cynnal fesul cam dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydym yn gwerthfawrogi y bydd pobl yn awyddus i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn cyn gynted â phosibl, ond er ein bod yn edrych ymlaen at weld plant yn mwynhau ein hardaloedd chwarae eto, mae'n bwysig iawn eu bod yn gallu gwneud hynny'n ddiogel.

"Byddwn yn chwarae ein rhan yn hynny drwy sicrhau bod y cyfarpar yn ddiogel i'w ddefnyddio, ond yn y pen draw, bydd rhaid i deuluoedd sy'n ymweld ag ardaloedd chwarae a'r rhai sy'n defnyddio ein hardaloedd ffitrwydd awyr agored  gymryd cyfrifoldeb dros gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, gan gadw pellter cymdeithasol a gwneud yn siŵr eu bod yn golchi eu dwylo cyn ac ar ôl eu hymweliad."

Yn ogystal â chynnal archwiliadau i ganfod unrhyw gyfarpar neu arwynebau diogelwch sydd wedi dirywio, wedi cael eu difrodi neu eu fandaleiddio yn ystod y tri mis y cawsant eu cau, bydd arwyddion newydd hefyd yn cael eu gosod gyda'r nod o leihau, cyn belled ag y bo modd, y perygl o drosglwyddo Covid-19 wrth ddefnyddio'r cyfarpar chwarae a ffitrwydd.