Back
Bridiwr cŵn anghyfreithlon yn pledio'n euog

 

 

10/07/2020

Cafodd Anton Boston, 26, o Drelái yng Nghaerdydd ei gollfarnu am fridio cŵn yn anghyfreithlon ac am dwyll yn Llys Ynadon Caerdydd ar 3 Gorffennaf.

 

Wrth ddedfrydu ddydd Gwener diwethaf, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Khan wrth Boston y byddai wedi cael ei anfon i'r carchar ar unwaith pe na bai am COVID-19 a'i gyflwr iechyd.

 

Daeth yr achos hwn i'r amlwg yn dilyn nifer o gwynion am Anton Boston a'i fusnes bridio cŵn, ar ôl i hysbysebion a negeseuon cyfryngau cymdeithasol gael eu rhoi ar Facebook.

 

Ar ôl casglu'r holl dystiolaeth berthnasol yr oedd ei hangen i wneud cais am warant, gweithredwyd gwarant aml-asiantaeth ar ei gyfeiriad cartref ar 2 Mai, 2019.

 

Daethpwyd o hyd i chwech o gŵn llawn dwf a phump o gŵn bach pan gyrhaeddodd swyddogion o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, yr RSPCA a'r heddlu ei dŷ, ynghyd â dau basbort cŵn ffug.

 

Yn ogystal â bod heb drwydded i fridio cŵn a bod ganddo ddau basbort ffug ar gyfer dau o'r cŵn, roedd yn amlwg i'r swyddogion nad oedd gan Boston unrhyw waith papur arall ar gyfer yr anifeiliaid eraill a'i fod yn bridio mwy na'r lefelau a ganiateir.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y Cynghorydd Michael Michael:

 

"Roedd ein swyddogion yn ymchwilio i Anton Boston ers peth amser, oherwydd y cwynion a dderbyniom o sawl ffynhonnell.

 

"Tra oeddem yn paratoi ein hachos ar gyfer y llys, bu adroddiad yn y wasg ar ddiwedd mis Ionawr fod Boston wedi cael ei dargedu mewn lladrad gwaethygedig yn ei dŷ, pan aeth dynion arfog i mewn i'w eiddo gan fynnu arian a dwyn un o'i gŵn bach. Erbyn hynny, roedd ein hachos yn erbyn Boston yn parhau, a gwyddem fod y busnes yr oedd yn ei weithredu o'i gartref yn anghyfreithlon."

 

Cafodd Anton Boston ei ddedfrydu i 32 wythnos yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis gyda'r gofyniad i gwblhau 20 niwrnod o weithgareddau adsefydlu, yn ogystal â chyrffyw â thag am 16 wythnos. Cafwyd gorchymyn fforffedu a dinistrio ar gyfer y pasbortau a dyfarnwyd £350 o gostau i'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir.

 

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Ar gais y barnwr a'r ffaith bod dedfryd ohiriedig wedi ei rhoi yn yr achos yma, byddwn yn cadw llygad barcud ar Anton Boston i sicrhau nad yw'n torri unrhyw un o amodau ei ddedfryd."