Back
Hwb adfywio gwerth miliynau o bunnoedd i Tudor Street


7/7/20
Bydd Tudor Street yng Nghaerdydd yn elwa ar raglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd sydd â'r nod o greu ardal siopa ddeniadol a bywiog ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr ag ardal Glan yr afon.

 

Bydd cam un y datblygiad, sy'n dechrau ar y safle fis nesaf, yn gweld £1m yn cael ei fuddsoddi mewn safleoedd masnachol sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yng nghynllun gwella adeiladau Tudor Street.

 

Mae cyllid pellach o tua £3m wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith yn gynnar yn 2021 a fydd yn galluogi trawsnewidiad mawr i amgylchedd y stryd gyfan.

 

Mae Ymgynghoriad ar broject 2021 ar fin dechrau a nod y cynllun yw cyflawni'r canlynol:

 

  • Lôn feiciau ddwy ffordd newydd, ar wahân, o Bont Stryd Wood i'r gyffordd â Clare Street
  • Ynys fysus newydd gyferbyn â Plantagenet Street, yn hwyluso teithio ar fysus i'r Sgwâr Canolog a chanol y ddinas yn ehangach
  • Seilwaith gwyrdd newydd, yn benodol coed a gerddi glaw, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a gwell ansawdd aer
  • Amgylchedd cyhoeddus dymunol a chroesawgar, gwella'r Porth i Dde Glan-yr-afon o ganol y ddinas, gyda blaenoriaeth i gerddwyr drwy balmentydd lletach a gwell croesfannau i gerddwyr
  • Gwell mynediad i Daith Taf drwy ailalinio'r ramp a'r grisiau presennol wrth y gyffordd â Tudor Street ac
  • Amgylchedd stryd gwell, gyda phalmentydd, celfi stryd a goleuadau newydd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rwyf mor falch ein bod wedi llwyddo i sicrhau dros £2.5m o gyllid adfywio gan Lywodraeth Cymru ynghyd â'n cyllid ein hunain gan y Cyngor i fuddsoddi yn y ganolfan siopa hon. Nawr, yn fwy nag erioed, rydyn ni'n gweld manteision siopa lleol i bobl leol ac mae'r projectau hyn yn dangos yr ymrwymiad sydd gennym i sicrhau dyfodol y canolfannau siopa cymunedol pwysig hyn."

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r gwaith hwn yn rhan o gyfres o gynlluniau sydd gennym ar gyfer ardaloedd cymdogaeth ac yr ydyn ni'n eu lansio ar hyd a lled y ddinas. Rydyn ni am greu amgylcheddau y gall preswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau, lleoedd lle gallwch gerdded a beicio a neilltuo amser i siopa a mwynhau'r gwahanol ardaloedd sydd yng Nghaerdydd. Yn bwysig, rydyn ni hefyd yn manteisio ar y cyfle i gynyddu natur mewn ardaloedd sydd ag ychydig iawn o fannau gwyrdd."

 

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun gwerth £1m o gronfa ranbarthol ar gyfer projectauwedi eu rhan-ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy ei rhaglen Trawsnewid Trefi. Bydd blaenau siopau newydd a gwelliannau allanol i adeiladau yn rhan o'r project sy'n ceisio helpu i drawsnewid yr ardal siopa yn lle deniadol a bywiog i ymweld ag ef.

 

Mae'r Cyngor hefyd i roi arian cyfatebol i'r tua £1.6 m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwelliannau gwerth £3m yn 2021, a sicrhawyd drwy Gyllid Trawsnewid Trefi ar gyfer Seilwaith Gwyrdd ac Adfywio.

 

 

Rhagor o wybodaeth am gynlluniau Tudor Street,gan gynnwys lluniadau'r cynllun a sut i ymateb i'r ymgynghoriad ar gael yn y pecyn ymgynghori sydd yn www.Cardiff.gov.uk/projectautrafnidiaethneu ar gais drwy e-bostiotudorstreet@caerdydd.gov.uk