Back
Grace fach yn Stopio Sbwriela!

06.07.2020

Gofynnwch i blentyn 9 oed beth a hoffai ei gael i'w ben-blwydd neu'r Nadolig ac mae'n debyg o ofyn am degan technolegol neu hwyl (a swnllyd!).

 

 

 

Ond, dywedodd Grace, merched fach garedig 9 oed o Lwynbedw, wrth ei thad ei bod eleni'n gofyn i Sion Corn am ... bigwr sbwriel.

 

Dywed Gareth Wakeham, tad Grace, "Dywedodd Grace wrthyf, pan fyddwn ni'n mynd am dro, nad yw hi'n hoffi gweld y sbwriel ar y llawr a'r difrod mae'n ei wneud i'r amgylchedd.

 

"Dywedodd yr hoffai fynd â phigwr sbwriel â hi a bag sbwriel i lanhau wrth i ni gerdded."

 

Gyda phen-blwydd Grace ar ddiwedd Mehefin yn ystod y cyfnod cloi, nid oedd parti pen-blwydd gyda'i ffrindiau, felly trodd ei thad gofalgar at Gyngor Caerdydd am help.

 

Ysgrifennodd Gareth e-bost aty Cynghorydd Daniel De'ath, Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, gan ofyn a allai helpu i wneud pen-blwydd ei ferch yn un arbennig iawn, trwy roi pigwr sbwriel iddi.

 

Dywed y Cynghorydd Daniel De'ath,Gwir Anrh. Arglwydd Faer Caerdydd, "Mae Grace yn enghraifft wych o rywun sydd, hyd yn oed yn ifanc, yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn ei chymuned ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd.

 

"Diolch yn fawr i Gareth, tad Grace, am gysylltu. Gobeithiwn y cafodd Grace ben-blwydd gwych."

 

Mae'n parhau, "Rydym yn hynod o falch ac yn ddiolchgar i'n trigolion a'n gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser sbâr i gasglu sbwriel, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn."

"Mae mor anffodus bod lleiafrif o bobl yn credu ei fod yn dderbyniol i daflu sbwriel ac rydym yn ddiolchgar i'r rhai ohonoch sy'n dangos eich bod yn caru lle rydych yn byw.

"Hoffwn ddiolch hefyd i dimau glanhau strydoedd ein Cyngor ac i gasglwyr sbwriel penodol sy'n parhau i weithio'n galed iawn i gadw Caerdydd yn daclus."

Dywed Grace, "Gofynnais i am y codwr sbwriel gan fy mod i am wneud y byd yn lle glanach.

 

"Pan welais i'r holl sbwriel mewn parciau ac ym Mae Caerdydd, doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth. Roeddwn i'n ysgwyd fy mhen ac yn gofyn "Pam?""

 

"Gobeithio y bydd pobl yn fwy gofalus wrth i'r cyfnod cloi ddechrau cael ei lacio."

 

"Cyn y cyfnod cloi, gwnes i araith yn yr ysgol am sbwriel a byddwn i wir yn hoffi petai pobl yn rhoi eu sbwriel yn y bin yn hytrach na'i daflu ar y llawr."

 

 

Pen-blwydd hapus Grace!

 

Diolch am fod yn Ymgyrchydd Sbwriel mor wych!

 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am grwpiau cymunedol ac Ymgyrchwyr Sbwriel, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Dacluswww.keepwalestidy.cymru. Mae rhagor o arweiniad ar gasglu sbwriel yn ystod cyfyngiadau COVID-19 i'w gweld ar wefanhttps://www.keepcardifftidy.com/cy/.