Back
Casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd i ddychwelyd i’r patrwm arferol ar 6 Gorffennaf

 

 

26/06/20
Mae casgliadau gwastraff gardd o ymyl y ffordd Caerdydd yn mynd i ddychwelyd bob pythefnos o ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu: "Amharwyd ar ein casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos gan bandemig COVID-19, ond rwy'n falch o ddweud y bydd y gwasanaeth arferol yn ailddechrau. Hoffwn ddiolch i'r trigolion am eu hamynedd.  Maen nhw wedi deall y pwysau sydd wedi bod arnom ni'n iawn."

Gall preswylwyr wirio diwrnodau casglu gwastraff gwyrdd a dyddiadau ar gyfer eu hardal o 6 GorffennafYma, dylai casgliadau ddilyn y patrwm yr oedd preswylwyr yn gyfarwydd ag ef cyn y cyfyngiadau.

Mae'r ffaith fod y casgliad gwastraff gardd bob pythefnos wedi'i adfer yn golygu bod pob casgliad arferol o ymyl y ffordd bellach yn ôl yn y ddinas ac eithrio'r cynllun peilot poteli gwydr a jariau.

Gofynnir i drigolion sy'n byw yn y 14,000 o gartrefi a gymerodd ran yn y cynllun peilot gwydr barhau i roi eu poteli a'u jariau yn eu bagiau ailgylchu gwyrdd, yn hytrach na'u cadi glas hyd nes y ceir hysbysiad pellach.

Er mwyn helpu staff y Cyngor i gadw'r strydoedd yn lân, gofynnir i drigolion hefyd ddefnyddio eu cadis bwyd brown ar gyfer eu holl bilion llysiau a gwastraff bwyd dros ben, a sicrhau bod eu holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu golchi cyn iddynt fynd i'r bagiau gwyrdd i'w casglu.

Yr unig wastraff y dylid ei roi yn y biniau gwyrdd yw dail, gwair wedi ei dorri, toriadau planhigion neu flodau a brigau a changhennau bychain.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Cafwyd adroddiadau bod bagiau gwyrdd yn cael eu rhwygo ar agor gan wylanod llwglyd, gan achosi i sbwriel lifo allan i'r strydoedd ar draws y ddinas.  Os golchir deunyddiau i'w hailgylchu a bod gwastraff bwyd yn mynd i'r cadis y gellir eu cloi yna bydd hynny'n mynd beth o'r ffordd i atal adar ac anifeiliaid rhag rhwygo bagiau gwyrdd ar agor a chreu llanast ar eich stryd. Mae llawer o breswylwyr yn wych am sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei gyflwyno yn y ffordd gywir, ond nid yw'n cymryd llawer i'r stryd gael ei difetha.  Pe gallai pawb wneud eu gorau i sicrhau nad oes unrhyw wastraff bwyd yn eu bagiau gwyrdd a bod deunydd ailgylchadwy yn cael ei olchi, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i olwg eich strydoedd."