Back
Y Gleision Yn Dychwelyd I Hyfforddi Yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn
Bydd Gleision Caerdydd yn dychwelyd i hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn ar ôl dod i gytundeb dros dro gyda Chyngor Caerdydd a GLL, y fenter gymdeithasol hamdden elusennol sy'n gweithredu'r cyfleuster.

Gyda Pharc yr Arfau eiconig yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel rhan o Ysbyty Calon y Ddraig, roedd angen cyfleuster dros dro ar gyfer dychweliad tîm y rhanbarth i rygbi'r mis nesaf.

Mae cytundeb bellach wedi'i gwblhau rhwng y rhanbarth, Cyngor Caerdydd a GLL, ar gyfer defnyddio’r ganolfan hamdden ar Heol Bryn Celyn dros dro. Mae hyn yn dilyn cyngor y cytunwyd arno gan y Llywodraeth ac URC i glybiau rygbi proffesiynol ddychwelyd i hyfforddiant, gan weithredu protocolau diogel rhag COVID.

Bellach, bydd Gleision Caerdydd yn unig yn defnyddio nifer o gyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn, gan gynnwys campfa bwrpasol, cyfleusterau meddygol ac arwyneb 3G. Bydd dynion John Mulvihill hefyd yn parhau i ddefnyddio llain laswellt unigryw ar eu cyfer yng Ngerddi Sophia.

Meddai Richard Holland, Prif Weithredwr Gleision Caerdydd: "Rydym wrth ein boddau bod gennym gyfleuster o'r fath i helpu’r garfan i ddychwelyd i chwarae yn raddol a hoffwn ddiolch i Gyngor Caerdydd, yn enwedig i arweinydd y Cyngor Huw Thomas, y Prif Weithredwr Paul Orders a'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury, a GLL am eu cefnogaeth yn hyn o beth.

"Gyda Pharc yr Arfau yn parhau i chwarae rhan yn Ysbyty Calon y Ddraig, roedd angen cyfleuster o'r radd flaenaf arnom ac mae'r holl bartïon perthnasol wedi tynnu ynghyd i gynnig ateb cadarnhaol.

"Bydd y cyfleuster dros dro newydd yn cydymffurfio'n llawn â holl reoliadau a chanllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru, Rygbi'r Byd ac Undeb Rygbi Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau arni gyda bloc o gyflyru’r cyrff wrth i ni weithio tuag at ddychwelyd i rygbi ar 22 Awst."

Bydd y cynlluniau presennol yn golygu ailagor cyfleusterau hamdden fesul cam, ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau dyddiad ailagor, er mwyn sicrhau y caiff arferion gwaith newydd, diogel rhag COVID eu rhoi ar waith.
 
 Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cyng. Peter Bradbury: "Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod wrth galon ymateb Caerdydd i COVID-19 – roedd y Gleision yn trosglwyddo Parc yr Arfau er budd y GIG yn enghraifft wych o hynny. Mae'r symud dros dro hwn i Ganolfan Hamdden Pentwyn, yn ateb creadigol iawn, sy'n cyd-fynd â'r ysbryd cymunedol hwnnw, o fudd i bob partner, a bydd yn helpu i sicrhau bod y garfan yn ffit ac yn barod i ailgydio ynddi ym mis Awst."

Dywedodd Rhys Jones, Pennaeth Gwasanaeth GLL yng Nghaerdydd: "Rydym yn falch iawn o allu chwarae rhan wrth gefnogi'r gleision i ddychwelyd i hyfforddiant a dod o hyd i ddefnydd gwerth chweil ar gyfer canolfan hamdden Pentwyn tra mae'n dal i fod ar gau i'r cyhoedd. Un o ganlyniadau positif pandemig COVID-19 fu gweld cymunedau'n tynnu ynghyd, ac mae hyn yn enghraifft wych o sut rydym wedi gweithio gyda Chyngor Caerdydd a'n tîm lleol, er mwyn helpu i sicrhau bod y chwaraewyr yn 'barod am gêm' erbyn dechrau'r tymor."