Back
COVID-19: Cynlluniau traffig ysgol newydd i sicrhau cydymffurfiaeth â mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn ffordd ddioge


 

24/6/20
Bydd cyfres o gynlluniau traffig newydd yn cael eu rhoi ar waith ledled Caerdydd i sicrhau bod plant a theuluoedd yn gallu cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi i deithio'n llesol pan fydd ysgolion yn ailagor o ddydd Llun 29 Mehefin.

 

Bydd ffyrdd yn cael eu cau mewn 27 o safleoedd ysgol er mwyn hwyluso ymbellhau cymdeithasol mewn mannau gollwng a chasglu. Bydd plant a theuluoedd yn gallu defnyddio ffyrdd lle bo angen.

 

Bydd mesurau eraill yn cynnwys lledu palmentydd a llwybrau a chyflwyno cyfyngiadau 20mya dros dro ar ffyrdd mewn rhai safleoedd ysgol.

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn ailagor ddiwedd mis Mehefin, rydym wedi bod yn cynllunio'n ofalus o amgylch cyfres o fesurau i sicrhau y gall plant, staff a rhieni ddychwelyd yn ddiogel.

 

"Mae llawer o waith wedi'i wneud gydag ysgolion er mwyn iddyn nhw allu gweithredu mewn amgylcheddau sy'n eu helpu i gadw pellter corfforol. Bydd y mesurau traffig newydd hyn yn caniatáu i blant a theuluoedd gyrraedd a gadael yr ysgol yn ddiogel, gan ategu'r camau ymbellhau corfforol a fydd ar waith yn ystod y diwrnod ysgol.

 

"Rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i barhau i hyrwyddo Teithio Llesol fel y ffordd fwyaf diogel ac iach o gyrraedd yr ysgol ac rwy'n annog disgyblion i gerdded, beicio a sgwtio i'r ysgol lle bo modd."

Dywedoddyr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae ein timau wedi bod yn gweithio ddydd a nos gydag ysgolion, gan ystyried pob lleoliad a safle penodol, i helpu i weithredu mesurau a fydd yn helpu i hyrwyddo ymbellhau cymdeithasol.

"Mae cyflawni rhaglen Teithio Llesol i Ysgolion y Cyngor yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth i ysgolion ddechrau ailagor. Gofynnir i blant a rhieni ddewis Teithio Llesol fel modd o deithio i'r ysgol. Nid dim ond y ffordd fwyaf diogel yw hyn; bydd hefyd yn chwarae rhan allweddol yn lleihau tagfeydd, gwella ansawdd aer a mynd i'r afael â phroblemau newid yn yr hinsawdd." 

 

Am restr lawn o ffyrdd ysgol fydd ar gau, ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Strategaethau-cynlluniau-a-pholisiau/Cynllunio-at-Argyfwng-a-Gwydnwch/gwybodaeth-ynghylch-coronafeirws/COVID-19-school-streets/Pages/default.aspx

 

 

 

 

Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Caerdydd i hyrwyddo a chynorthwyo teithio llesol i'r ysgol, mae rhieni a phlant yn cael eu holi am y llwybrau y maent fel arfer yn eu cymryd ar droed, sgwter neu feic i helpu i gynllunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

 

I ddweud eich dweud ac i gael rhagor o wybodaeth ewch i https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/active-travel-schools/take-action/map-rhwydwaith-teithio-llesol/

 

 

Ymunwch yn y sgwrs#TeithioLlesolCdydd