Back
Amser am Newid Go Iawn

 

22/6/20
Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio yn y ddinas heddiw i adeiladu ar y llwyddiant diweddar o ran helpu pobl sy'n agored i niwed i adael y strydoedd.

 

Mae ymgyrch Real Change yn ceisio parhau â'r gwaith a gyflawnwyd gan wasanaethau digartrefedd yn ystod cyfnod y cloi  pan welwyd gostyngiad yn nifer y bobl a oedd yn cysgu ar y stryd i ffigurau sengl, a mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn dechrau manteisio ar wasanaethau sy'n newid bywydau yn y ddinas.

 

Mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn benderfynol o beidio â cholli'r momentwm cadarnhaol a gyflawnwyd wrth helpu pobl i droi cefn ar y strydoedd, wrth i ganol y ddinas ddechrau dod yn fyw. Mae pob partner yn annog y cyhoedd i helpu i sicrhau newid go iawn a pharhaol i'r bobl sy'n agored i niwed a welant ar y stryd.

 

Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl beidio â rhoi eu newid sbâr i'r rhai sy'n cardota, ond yn hytrach cyfeirio pobl sy'n agored i niwed at y gwasanaethau a all weddnewid eu bywydau.

 

Anogir unrhyw un sy'n pryderu am unigolyn y dônt ar ei draws ar y strydoedd i alw am gymorth drwy decstio ' REALCHANGE ' i 80800, gan nodi lleoliad y person hwnnw. Yna, bydd tîm allgymorth digartref y ddinas yn cael ei anfon i weld yr unigolyn dan sylw i'w annog i adael y strydoedd.

 

Cafwyd llwyddiant sylweddol o ran cartrefu pobl ddigartref yn ystod y tri mis diwethaf, a dim ond llond dwrn o bobl sy'n parhau i gysgu ar y strydoedd.  Mae llawer o lety o safon wedi'i sicrhau, gan gynnwys llety mewn dau westy mawr, ac mae gwasanaethau iechyd a chymorth wedi'u cynnig i helpu'r cleientiaid hyn sy'n agored i niwed i fynd i'r afael â'u hanghenion sylfaenol.

 

Roedd gwaith da eisoes yn mynd rhagddo i leihau'r nifer sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas diolch i waith y Tîm Allgymorth Digartrefedd Amlddisgyblaethol penigamp, ond ers cyfnod y cloi, mae mwy o gleientiaid sy'n agored i niwed nag erioed yn ymgysylltu â gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau disodli cyffuriau a therapiwtig.

 

Mae mwy o lety a chymorth ar gael wedi bod yn ffactor allweddol yn y newid hwn ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod y ddarpariaeth ychwanegol hon yn parhau ar ôl i'r argyfwng ddod i ben.  Fodd bynnag, newid allweddol arall fu diffyg cyfleoedd i gardota yn ystod cyfnod y cloi a llai o anogaeth i ymweld â chanol y ddinas.

 

Mae Real Change yn ceisio codi ymwybyddiaeth am yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yng Nghaerdydd i helpu pobl ar y llwybr i ffwrdd o fywyd ar y strydoedd a'r llwyddiant sydd wedi'i gyflawni'n ddiweddar o ran gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Nod yr ymgyrch yw cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'r ffordd orau o helpu gyda'r gwaith hwn a sut y gall unigolion, heb yr ymyriadau priodol, barhau i fyw yn yr awyr agored, yn gaeth i ffordd niweidiol o fyw.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Ers i fesurau cyfnod y cloi  ddod i rym, rydym wedi helpu 473 o unigolion i gael yn ein hosteli a'n llety ychwanegol mewn gwestai. Mae 71 o bobl wedi cael eu cyfeirio at raglenni adsefydlu cyffuriau sy'n newid bywydau, gyda llawer ohonynt yn symud i gael triniaeth ymhen ychydig ddyddiau i'w hymgynghoriad cychwynnol. Dyna 71 o bobl a fyddai'n fwy na thebyg yn dal i gael trafferthion gyda'u dibyniaeth ar gyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau ar y strydoedd heb ein hymyriadau - mae 71 o bobl yn profi newid go iawn yn eu bywydau ar hyn o bryd. Dim ond pump o'r rheiny sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd ers tro byd sydd dal yno ac rydym yn parhau i weithio gyda nhw.

 

"Rydym wedi ymrwymo i barhau i sicrhau'r gwelliant hwn - does dim troi yn ôl nawr!

 

"Mae gennym ni gynlluniau ar waith i gynnal a gwella'r amrywiaeth o opsiynau tai a chymorth sydd ar gael i bobl ddigartref yng Nghaerdydd, ond mae angen eich cymorth chi arnom i sicrhau nad yw pobl sy'n agored i niwed yn cael eu denu yn ôl i fyw ar y strydoedd.

 

"Rydyn ni eisiau i bobl ddeall nad yw rhoi newid sbâr yn sicrhau newid go iawn. Nid yw'r cannoedd o bobl rydyn ni'n helpu i ddod i mewn oddi ar y stryd bob blwyddyn wedi ailadeiladu eu bywydau gydag arian a roddwyd iddyn nhw ar y strydoedd. Mae wedi digwydd drwy dderbyn y llety a'r cymorth parhaus sydd gennym yn y ddinas i weddnewid eu bywydau.

 

"Mae gan rai pobl sy'n cardota yng nghanol y ddinas eu cartrefi eu hunain, ond nid yw hynny'n golygu nad oes angen help arnyn nhw. Gall y newid go iawn a gynigir gan ein gwasanaethau ni fynd i'r afael â'r materion cymhleth sydd ynghlwm wrth y rheswm pam fod yr unigolyn hwnnw ar y stryd yn y lle cyntaf.

 

"Os yw pobl am helpu drwy roi arian, yna bydd elusennau digartref lleol ac ymgyrch rhoi amgen y ddinas, CAERedigrwydd, yn sicrhau y caiff yr arian ei wario ar y newid go iawn, parhaol hwnnw yr ydym i gyd eisiau ei gyflawni.

 

"Mae cyfnod y cloi wedi rhoi cyfle unigryw i ni newid y ffordd yr ydym yn helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas.  Mae'r diffyg newid sbâr yn ystod y cyfnod hwn wedi golygu bod mwy a mwy o bobl wedi dewis newid go iawn a defnyddio'r amgylchiadau presennol i gael eu traed oddi tanynt.

 

"Rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau nad oes neb yn gorfod bod ar y stryd ac y gall y bobl sy'n agored i niwed yn y ddinas gael mynediad at y llety a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.  

 

"Mae angen i'r cyhoedd ein helpu ni drwy feddwl ddwywaith am roi arian yn uniongyrchol i unigolion ac yn lle hynny, cefnogi newid go iawn ym mywydau pobl drwy beidio â rhoi eu newid sbâr.

 

"Rwy'n gwybod ei bod yn anodd cerdded heibio'r bobl ar y stryd, felly rhowch y gorau iddi a'u cyfeirio at ein gwasanaethau, neu alw am gymorth drwy decstio ' REALCHANGE ' i 80800 a byddwn yn anfon ein tîm allgymorth allan i'w helpu."

 

Arweiniodd ymateb cyflym y ddinas i ddiogelu unigolion sy'n agored i niwed ar y strydoedd yn ystod achos COVID-19 at agor dau westy yn cynnig llety brys a defnyddio cynwysyddion llongau fel unedau ynysu ar gyfer cleientiaid oedd yn dangos symptomau'r coronafeirws.

 

Mae gwasanaethau cymorth fel clinigau dan arweiniad nyrsys yn y gwestai a hosteli presennol, cwnsela therapiwtig, mynediad at wasanaethau rhagnodi cyflym a defnyddio'r cyffur newydd amgen, Buvidal, wedi cyfrannu at ymgysylltu'n llwyddiannus â chleientiaid, sy'n golygu bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas wedi gostwng i ffigurau sengl.

 

Mae'r Cyngor a phartneriaid digartrefedd yn y ddinas, gan gynnwys The Wallich, Huggard, YMCA a Byddin yr Iachawdwriaeth bellach yn benderfynol o adeiladu ar y cychwyn cadarnhaol hwn.

 

Mae gweledigaeth y Cyngor ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol yn cynnwys canolfan asesu newydd, sy'n dwyn ynghyd wasanaethau iechyd a gwasanaethau digartref gyda llety dros nos brys ar y safle; cynlluniau ar gyfer lleoedd Tŷ yn Gyntaf ychwanegol; cymorth dwys i helpu pobl sy'n agored i niwed i symud yn uniongyrchol o'r stryd i lety hunangynhwysol o safon; cynyddu'r cyflenwad o lety sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer pobl ag anghenion mwy cymhleth drwy ddatblygu darpariaeth newydd a gwella'r ddarpariaeth bresennol.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym wedi gweld beth y gellir ei wneud gyda'r llety a'r cymorth priodol. Mae gennym gyfle gwych yma i wneud y gorau o barodrwydd cleientiaid i dderbyn help, manteisio ar ein gwasanaethau a symud ymlaen.

 

"Byddai'n drychinebus gweld yr holl waith a'r cynnydd rhyfeddol hwn yn cael ei ddadwneud, gydag unigolion yn dychwelyd i'r strydoedd, i gardota, i gamddefnyddio sylweddau a drws troi digartrefedd.  Gall pobl yng Nghaerdydd ein helpu i sicrhau ein bod yn symud ymlaen ac nid yn ôl. A wnewch chi gefnogi'r newid go iawn drwy alw am help, ac nid drwy roi eich newid sbâr. "

 

Dywedodd Prif Weithredwr Huggard, Richard Edwards:  "Os gallwn wneud cynnydd go iawn o ran mynd i'r afael â digartrefedd ar y stryd yn ystod y pandemig, mae angen inni fynnu bod y cynnydd hwn yn parhau ac na chaiff ei ddadwneud na'i golli.   Mae Huggard yn croesawu'r ymrwymiad gan Gyngor Caerdydd i gynnal a chynyddu gwasanaethau cymorth ac adeiladau i sicrhau newid go iawn parhaol. 

 

"Wrth i ganol y ddinas agor eto, yr ofn yw y bydd hyn yn annog pobl i gardota ar y strydoedd eto a gadael y cymorth a'r llety sydd wedi eu helpu dros y misoedd diwethaf.

 

"Os ydych chi'n poeni am rywun rydych chi'n ei weld ar y strydoedd, cyn i chi feddwl am roi eich newid sbâr iddo, ceisiwch sicrhau newid go iawn a gwneud yn siŵr eich bod chi'n galw am gymorth. Bydd Huggard yn parhau i roi cymorth a chefnogaeth bob dydd, drwy'r dydd ac mae angen inni sicrhau bod Cyngor Caerdydd yn cadw at ei addewid, a gweithio mewn partneriaeth â nhw, i sicrhau newid go iawn i bobl sy'n profi digartrefedd yn y ddinas. "