Back
Canolfannau Ailgylchu

17/06/20

Mae'r mathau o wastraff y gellir dod â chanolfannau ailgylchu Caerdydd, Ffordd Lamby a Bessemer Close, yn newid ddydd Llun, 22 Mehefin.

Bydd preswylwyr yn awr yn gallu dod ag eitemau trydanol mawr, nwyddau gwyn, batris, dillad, teiars, paent a sawl eitem arall a dderbyniwyd cyn dechrau pandemig COVID-19.

Gellir dod â deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu megis polystyren, creon, drychau a bleindiau i'r canolfannau ailgylchu hefyd, ond rhaid eu tynnu'n rhydd a'u rhoi mewn sgip benodol.

Fodd bynnag, ni fydd gwastraff ailgylchadwy a gwastraff cyffredinol yn cael ei dderbyn a bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n dod â'r rhain i ganolfan ailgylchu fynd â'u bagiau adref i'w casglu gan y casgliad wrth ymyl y ffordd.

Mae'r rhestr lawn o'r hyn y gellir mynd ag ef i'r canolfannau ailgylchu, sut y gallwch drefnu amser i'ch cerbyd i fynd i mewn ar gyfer apwyntiad a'r system archebu fan benodol newydd a fydd ar gael yng nghanolfan ailgylchu Bessemer Close i gyd ar gael  yma

Dylai preswylwyr gofio, os yw gwastraff masnachol yn cael ei ganfod yn unrhyw un o'r gwiriadau untro gan staff y Cyngor, y bydd eu cerbyd yn cael ei wrthod mynediad i'r safle ac y gallai camau gorfodi gael eu cymryd.