Back
Cymorth byw’n annibynnol i gyn-filwr a dioddefwr llifogydd


16/6/20
Mae cyn-aelod 96 oed o'r Lluoedd Arfog y cafodd ei gartref ei ddinistrio yn ystod Storm Dennis wedi cael hwb mawr trwy gymorth Gwasanaethau Byw'n Annibynnol Caerdydd.

 

Achubwyd Gordon Matthews o'i gartref yn Nantgarw ar ei ben-blwydd yn 96 oed ym mis Chwefror pan ddaeth tywydd stormus a gwlyb y gaeaf â llifogydd i dde Cymru a rhannau eraill o'r wlad.

 

Cafodd Gordon, a fu'n aelod o'r Llu Awyr Brenhinol yn yr Ail Ryfel Byd, ei weld ar y newyddion teledu ledled Prydain yn cael ei gludo mewn cwch i ddiogelwch, gyda dŵr llifogydd hyd at uchder y pen-glin ym mhobman o'i amgylch. Ei fedalau rhyfel amhrisiadwy oedd yr unig bethau y llwyddodd i'w hachub o'i gartref cyn gadael.

 

Mae Mr Matthews bellach yn byw yn ddiogel ac yn iach gyda'i ferch Catherine yn y tŷ lle cafodd ei fagu yn Nhongwynlais, a hynny o ganlyniad i   ymyriad gan Wasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor.

 

Mae gan y gwasanaeth ymagwedd gwbl integredig tuag at ddileu rhwystrau i fywyd pob dydd ac annibyniaeth i bobl oedrannus ac agored i niwed sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn seiliedig ar amcanion, cryfderau a deilliannau'r bobl hyn sydd wedi'u nodi. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo unigolion i barhau i fyw gartref a bod mor actif ac annibynnol â phosibl, drwy eu helpu i fanteisio ar wasanaethau, gan gynnig cyngor a chyfarpar iddynt neu wneud addasiadau yn eu cartrefi.

 

Gwnaed nifer o addasiadau gan y Cyngor i'r eiddo yn Nhongwynlais, gan gynnwys gosod lifft grisiau, cawod mynediad gwastad, rheiliau i gynorthwyo symudedd Mr Matthews o amgylch y tŷ, codwyr cadeiriau, a dolen gwely i helpu i fynd i'r gwely a chodi ohono, cyfleusterau gwresogi ychwanegol a gwell mynediad i'r cartref.

C:\Users\c080012\Desktop\Mr Matthews.jpg

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae stori Mr Matthews yn enghraifft berffaith o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl gyhyd â phosibl. Mae'n dangos effaith y gwasanaeth ar fywydau pobl.

 

"O ganlyniad i'r gwaith yng nghartref merch Mr Matthews, mae'n gallu byw gyda'i deulu yn lle bod ar ei ben ei hun ar yr adeg hon sy'n arbennig o anodd.  Rydyn ni'n gwybod ei fod yn dechrau gwella ar ôl y trallod a ddioddefodd yn gynharach eleni ac mae'n ymgartrefu'n dda iawn ac yn mwynhau ymarfer corff dyddiol yn y gymuned, ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ei les corfforol a meddyliol."

 

 

Dywedodd Catherine, merch Mr Matthew: "Dyw e ddim yn teimlo'n gaeth i'w ystafell wely mwyach.  Does dim rhaid i fi boeni amdano'n dringo'r grisiau ar ei ben ei hun ac o bosib yn cael damwain. Mae'n gwneud cynnydd mawr yn ei fywyd o ddydd i ddydd, a hyd yn oed yn cerdded ychydig bach ymhellach bob dydd i gynyddu ei gryfder." 

 

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Byw'n Annibynnol y Cyngor, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/bywnannibynnol