Back
Diweddariad COVID-19: 11 Mehefin

Dyma ddiweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: cynnal cyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ar-lein; Project Pontio Rhithwir ar gyfer ysgolion ar waith; Clwb Ieuenctid Cŵl Pobl Fyddar Caerdydd; a apêl gan Ken o'r Tîm Glanhau Strydoedd, "Rydyn ni ynddi gyda'n gilydd, cadwch ein parciau yn lân".

 

Cynnal cyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ar-lein

Cynhaliwyd y cyfarfod o bell cyntaf erioed o Gabinet Cyngor Caerdydd heddiw, ar ffurf cynhadledd fideo.

Yn ystod y cyfarfod heddiw, bu arweinydd y Cyngor, Aelodau'r Cabinet ac arweinwyr grwpiau'r gwrthbleidiau yn trafod yr adroddiadau canlynol:

  • Ailgychwyn, Adfer, Adnewyddu: Y Camau Nesaf i Gaerdydd yn ystod Argyfwng Covid19
  • Ymateb Cyngor Caerdydd i Argyfwng COVID-19 o Bersbectif Rheolaeth Ariannol
  • Ymateb i Effaith Covid-19 ar Raglen Cyflenwi Tai Cyngor Caerdydd
  • Strategaeth Adfer y Ddinas

Cafodd y cyfarfod ei weddarlledu hefyd, a gellir gweld recordiad ohono, ynghyd â dolenni i adroddiadau'r Cabinet, yma:

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=4176&Ver=4&LLL=1

Cyn y cyfarfod, cyhoeddwyd y datganiadau canlynol i'r wasg:

Datgelu cynlluniau Caerdydd i ddod allan o'r cyfnod cloi fel un o ddinasoedd ‘mwyaf diogel' y DG
Cliciwch yma i'w weld:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24027.html

Eglurhad o fil £29m Cyfnod Cloi COVID-19 i Gyngor Caerdydd

Cliciwch yma i weld:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/24030.html

 

Project Pontio Rhithwir ar gyfer ysgolion ar waith

Mae Project Pontio Rhithwir sy'n helpu plant sy'n gadael yr ysgol gynradd i baratoi ar gyfer dechrau yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi, ar waith yng Nghaerdydd.

Mae'r cynllun, a ddatblygwyd gan Addewid Caerdydd mewn partneriaeth â Thîm E-ddysgu'r Cyngor, yn rhoi'r cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 6 ddysgu am eu hysgol uwchradd newydd, y byddan nhw'n symud iddi ar ôl gwyliau'r haf.

Mae'r project yn eu galluogi i ddefnyddio tudalen we ddiogel a Google Classroom ac yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau a luniwyd gan yr ysgol uwchradd i annog disgyblion a staff i gyfathrebu a dod i adnabod ei gilydd yn well. Mae'r project hefyd yn galluogi disgyblion newydd i ddysgu mwy am yr ysgol gan gynnwys gwybodaeth am y staff, mapiau o'r ysgol, gwisg yr ysgol, disgwyliadau, yn ogystal â'u galluogi i bostio unrhyw gwestiwn a allai fod ganddynt.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn bwysig dros ben i blant ac yn rhoi'r cyfle iddyn nhw ddod i adnabod eu hysgol newydd yn ogystal â meithrin perthnasoedd, magu hyder a theimlo'n ddiogel.

"Gyda'r ysgolion ar gau ar hyn o bryd, nid yw'r sesiynau pontio arferol wedi bod ar gael i  blant  ac mae'n bosib y byddan nhw'n poeni neu'n gorbryderu am eu hysgol newydd.   Mae'r cynllun hwn yn helpu i liniaru'r teimladau hynny, gan roi'r cyfle i ddisgyblion feithrin sgiliau sy'n arwain at ganlyniadau gwell yn yr ysgol uwchradd."

Cafodd y Project Pontio Rhithwir ei beilota yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Ysgol Uwchradd Cathays. Mae pum ysgol arall bellach yn cymryd rhan yn y project gan gynnwys Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Illtyd Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Cristi, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Dywedodd yr Arweinydd Pontio er Budd Iechyd a Lles yn Ysgol Uwchradd Cathays, Cari Merriott, "Mae'n wych bod Ysgol Uwchradd Cathays yn rhan o'r project hwn, er mwyn sicrhau bod disgyblion Blwyddyn 6 yn gallu pontio'n rhwydd yn ystod y cyfnod anodd sydd ohoni.

"Mae'n ein galluogi i barhau i weithio mewn partneriaeth fel y gwnaethom drwy gydol Blwyddyn 6. Rydym yn awyddus i'n disgyblion newydd deimlo'n hapus a llawn cyffro o fod yn ymuno ag ysgol uwchradd ac mae'r project hwn yn bendant yn eu cynorthwyo i wneud hynny."

 

Clwb Ieuenctid Cŵl Pobl Fyddar Caerdydd

Mae gan adran Cynhwysiant Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ddarpariaeth clwb ieuenctid arbenigol ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw o'r enw, Clwb Ieuenctid Cŵl Pobl Fyddar Caerdydd. Mae'n fan lle gall pobl ifanc fyddar fynd i beidio â phoeni am gyfathrebu gan eu bod yn rhannu'r un rhwystrau a rhwystredigaethau â'i gilydd.

Gellir goresgyn unrhyw rwystrau cyfathrebu gyda chymorth cyfieithydd BSL/Saesneg sydd bob amser ar gael naill ai i leisio neu i gyfathrebu drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain. Mae'r ddarpariaeth yn cael ei rheoli gan Shakilah Malik a Stuart Parkinson yw'r Gweithiwr Ieuenctid sy'n rhedeg y clwb. Mae Stuart hefyd yn fyddar ei hun ac yn cyfathrebu drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg llafar, mewn dull dwyieithog.

Mae pandemig y Coronafeirws wedi bod yn arbennig o anodd i bobl ifanc fyddar a thrwm eu clyw. O ganlyniad i'r cyfyngiadau, maent wedi colli eu 'rhwyd ddiogelwch i gwrdd ac ymlacio' nes aiff pethau yn ôl i'r arfer.

Mae'r clwb wedi bod yn cyfathrebu trwy Zoom i gyfathrebu â'i gilydd trwy arwyddion, a gallant rannu eu teimladau trwy dynnu lluniau, rhannu lluniau o'r bwyd maen nhw wedi bod yn ei goginio a thrafod beth maen nhw'n ei wneud i helpu ei gilydd i dreulio'r dydd.

Un adnodd gwych fu cyfeirio at y cwnselydd cymwys ar gyfer pobl fyddar Trudi Collier, sydd wedi bod yn postio sesiynau 'Ymwybyddiaeth Ofalgar' addas i bobl fyddar ar Facebook, y mae Stuart wedi bod yn eu rhannu ar dudalen Facebook Canolfan Pobl Fyddar Caerdydd (dolen isod).

Mae hyn oll yn sail i'r strategaeth iechyd a lles. Maent hefyd wedi cyfeirio at deaf4deaf, gwasanaethau cwnsela arbenigol os oes eu hangen.

Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan.

https://www.deafhub.wales/

Twittera @DeafHubWales

Facebooka @cardiffdeafcentre

 

"Rydyn ni ynddi gyda'n gilydd, cadwch ein parciau yn lân" - apêl gan Ken o'r Tîm Glanhau Strydoedd

cid:image004.jpg@01D63FF1.B972B920

Yr wythnos diwethaf, cafodd Ken, un o'n cydweithwyr yn y tîm glanhau,sylw mawrar y we yn gofyn i bobl fynd â'u sbwriel adref.

Cawsom sgwrs ag e i weld pam mae'n ei wylltio gymaint.

Meddai Ken, "Mae'r rhan fwyaf o bobl yn iawn(gyda'u sbwriel)ond mae cynnydd enfawr yn y sbwriel ers cychwyn y cyfnod cloi. Yn amlwg, mae llawer iawn o bobl i ffwrdd o'r gwaith felly dydy'r dyddiau ddim yn normal i unrhyw un bellach.

"Gyda mwy a mwy o bobl yn mynd i'r parciau i wneud eu hymarfer dyddiol neu i gwrdd â'i gilydd dan y canllawiau ymbellhau cymdeithasol, rydyn ni'n glanhau sbwriel o'r parciau bob dydd, a ninnau'n gallu gwneud hynny unwaith yr wythnos o'r blaen.

"Rydyn ni'n dod o hyd i farbeciws sydd dal ynghyn, yn llosgi yn y biniau, sydd mor beryg ac mae hi'n ddrud newid y biniau.

"Dydy'r Llywodraeth ddim yn argymell cael barbeciws mewn mannau cyhoeddus, ond ein cyngor cyn y cyfnod cloi oedd y dylid eu gadael nhw ar y concrit, wrth ymyl y biniau, i'w casglu. Ddylen nhw ddim cael eu gadael ar y glaswellt nac yn y biniau achos mae hyn yn berygl tân.

"Mae llawer o boteli, caniau a sbwriel picnic sy'n frith o amgylch y parciau. Rydyn ni'n edrych yn ofalus nad oes gwydr wedi torri, dim offer chwarae neu ymarfer corff wedi torri achos mae rhai pobl yn dal i ddefnyddio'r rhain. Dilynwch ganllawiau'r Llywodraeth a pheidiwch â defnyddio'r offer yma o gwbl.

"Mae cymaint o gewynnau budr yn cael eu gadael.Mae gennym wasanaeth hylendid y gall trigolion gofrestru ar ei gyfer. Yna caiff eich cewynnau eu casglu'n bob wythnos. Un wythnos mewn bagiau melyn, ac wythnos arall gyda'r gwastraff cyffredinol.Plîs, ewch â nhw adref gyda chi."

 Ken yn ei flaen, "Diolch yn fawr i Grŵp Afonydd Caerdydd a Cadwch Gymru'n Daclus, hebddyn nhw fydden ni ddim yn gallu ymdopi. Mae'r rhan fwyaf o'm cydweithwyr yn gweithio ar eu pennau eu hunain oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol ac allen ni ddim ymdopi heb gymorth y gwirfoddolwyr hyn.

"Rwy wrth fy modd gyda fy ngwaith, fe fyddai'n hoffi edrych yn ôl ar y parc glân a meddwl ‘Waw, fi wnaeth hynna; mae'n lân." Rwy'n falch o helpu i gadw Caerdydd yn daclus. Dydw i ddim ond yn gofyn i bobl fod yn ystyriol a'n helpu ni. Gorau po fwyaf y gall pobl ei wneud i'n helpu ni.

"Rydyn ni ynddi gyda'n gilydd."

Diolch yn fawr i Ken, yr holl dîm glanhau a'n gwirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed i gadw ein mannau cyhoeddus heb sbwriel.

Cofiwch fynd â'ch sbwriel adref neu gael gwared arno'n gywir. Gallech gael dirwy £100 am adael sbwriel. Dysgwch fwyyma.