Dyma'r diweddaraf ar COVID-19 gan Gyngor Caerdydd: bydd y cynllun grant i fusnesau a effeithir gan yr argyfwng COVID-19 yn cau i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2020; yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma; a mae rhagor o gyfundrefnau torri gwair ‘unwaith'.
Dyddiad cau ar gyfer Grantiau Busnes COVID-19
Bydd y cynllun grant i fusnesau a effeithir gan yr argyfwng COVID-19 yn cau i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2020.
Busnes sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer disgownt Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn grant o £10,000.
Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn derbyn grant o £25,000.
Gallai elusennau a sefydliadau dielw yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12k gael grant o hyd at £10k.
Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys llenwch y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.
Gwneud cais ar-lein yma:
https://apps8.cardiff.gov.uk/grantform/
Yr ardaloedd sy'n cael casgliadau gwastraff gardd dydd Sadwrn yma
Bydd yr ardaloedd yng Nghaerdydd y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu ar Ddydd Mawrth yn cael casgliad gwastraff gardd ddydd Sadwrn yma, 13 Mehefin.
Bydd y casgliadau gwastraff gardd untro yn parhau yn ystod mis Mehefin a wythnos gyntaf mis Gorffennaf, fel y gall preswylwyr gael gwared ar eu toriadau glaswellt, brigau a changhennau bach, dail, a thoriadau planhigion a blodau.
Dyma'r unig fathau o wastraff y dylid eu rhoi yn eich bin olwynion gwyrdd neu eich bagiau amldro.
Hoffem atgoffa preswylwyr y dylent roi gwastraff gardd allan i'w gasglu yn eu biniau olwynion gwyrdd neu eu sachau gardd amldro yn unig.
Ni fydd unrhyw wastraff gardd ychwanegol a roddir mewn unrhyw gynhwysydd arall, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael ei gasglu.
Os rhoddir eitemau anghywir yn y bin gwyrdd neu'r sachau amldro, caiff sticer pinc ei roi ar y cynhwysydd i hysbysu'r preswylydd bod eitemau anghywir wedi eu rhoi allan i'w casglu ac ni chaiff y gwastraff ei gasglu.
Mabwysiadu cyfundrefnau torri gwair sy'n dda i bryfed peillio mewn 18 safle newydd ledled Caerdydd
Mae rhagor o gyfundrefnau torri gwair ‘unwaith' sy'n dda i bryfed peillio wedi eu mabwysiadu mewn 18 safle newydd ledled Caerdydd
Mae'r safleoedd yn cwmpasu cyfanswm arwynebedd o 9 hectar, sy'n cyfateb i 12.5 cae pêl-droed. Mae'r arbrawf hwn yn rhan o waith parhaus y Cyngor i helpu i annog blodau gwyllt i dyfu a chreu cynefinoedd pwysig ar gyfer pryfed peillio, megis gwenyn a gloÿnnod byw, y mae eu niferoedd yn gostwng yn y DU.
Yr ardaloedd, nad yw'r glaswellt wedi ei dorri ynddynt eleni ac na chaiff ei dorri ond unwaith, yn gynnar yn yr hydref yw:
Mae'r safleoedd newydd yn ychwanegol at y 24.5 hectar o ddolydd cynhenid, sy'n dda i bryfed peillio ac sy'n safle torri unwaith, sydd eisoes yn cael gofal gan y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bob blwyddyn rydym yn cael llawer mwy o geisiadau gan drigolion i dorri glaswellt yn eu parciau a mannau gwyrdd lleol nag yr ydym yn eu cael i adael i'r ardaloedd hyn dyfu'n wyllt, ond o ystyried y dirywiad yn nifer y pryfed peillio y mae ein cyflenwadau bwyd yn dibynnu arnynt, mae'n bwysig bod y Cyngor yn gwneud y peth iawn ac yn chwarae rhan wrth helpu i wrthdroi'r duedd."
Darllenwch fwy yma: