Back
Diweddariad COVID-19: 5 Mehefin

Croeso i ddiweddariad COVID-19 olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: datgelu cynlluniau Caerdydd i ddod allan o'r cyfnod cloi fel un o ddinasoedd ‘mwyaf diogel' y DG; eglurhad o fil £29m COVID-19 i Gyngor Caerdydd; amae gwefan newydd i helpu pobl i reoli eu harian wedi cael ei lansio yr wythnos hon.

 

Datgelu cynlluniau Caerdydd i ddod allan o'r cyfnod cloi fel un o ddinasoedd ‘mwyaf diogel' y DG

Creu systemau cerdded unffordd i ddiogelu'r cyhoedd, gosod mannau croesawu i esbonio sut bydd symud o amgylch canol y ddinas yn gweithio ac agor tiroedd Castell Caerdydd i greu sgwâr cyhoeddus ‘newydd' i fusnesau lleol ei ddefnyddio - yw dim ond rhai o'r cynlluniau mae Cyngor Caerdydd yn eu hystyried wrth iddo baratoi i adael cyfnod y cloi.

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi cynllun gweithredu manwl sy'n amlinellu cyfres o fesurau arloesol sydd â'r nod o droi Caerdydd yn un o ddinasoedd ‘mwyaf diogel' y DG wrth i fywyd ddechrau dychwelyd i'r hyn sy'n ‘normal'.

Mae'r cynllun wedi ei ddatblygu ar y cyd ag Arup, arbenigwyr technegol cydnabyddedig ar ailgynllunio dinasoedd. Caiff ei ddefnyddio i ymgynghori â thrigolion, busnesau a chynghorwyr ar sut fydd y Cyngor yn:

  • ailagor prifddinas Cymru'n ddiogel gan ei gwneud yn hygyrch i bawb;
  • cefnogi busnesau wrth iddyn nhw ailddechrau masnachu;
  • ailgyflwyno ymwelwyr yng nghanol y ddinas wrth gydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol;
  • helpu pobl i gyrraedd canol y ddinas er bod llai o gapasiti ar drafnidiaeth gyhoeddus; a
  • hyrwyddo Caerdydd er mwyn creu enw da fel lle diogel, croesawgar, cyffrous a blaengar i ymweld ag ef ar ôl y cyfnod cloi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'r cynlluniau hyn yn dechrau amlinellu i ryw raddau sut y gall bywyd ailddechrau a sut y gall Caerdydd ffynnu er gwaethaf COVID-19. Rydym eisiau ailgychwyn, adfer ac adnewyddu prifddinas Cymru a phan fydd y cyfyngiadau yn dod i ben, rwy'n benderfynol y bydd ein dinas yn ailagor mewn ffordd a fydd yn gwneud popeth sy'n bosib i ddiogelu miloedd o swyddi; ac mewn ffordd sydd ar yr un pryd yn groesawgar ac yn hyderus ynghylch dyfodol Caerdydd.

"Rydym yn gweithio drwy fanylion y cynlluniau hyn gyda busnesau, trigolion a Chynghorwyr lleol i gael eu barn ac rwy'n ffyddiog os byddwn yn mabwysiadu yr un agwedd ‘un ddinas' a welwyd y sector cyhoeddus, cymunedau a busnesau yn ddod at ei gilydd drwy gyfnod y pandemig, yna gallwn droi'r cyd-ddyhead cyffredinol i ‘ail-godi'n well' yn realiti gwirioneddol.

"Un peth sy'n hynod gyffrous i mi yn benodol yw'n cynlluniau i agor tiroedd Castell Caerdydd fel sgwâr ‘cyhoeddus' newydd i'r bobl leol ei ddefnyddio yn rhad ac am ddim. Mae tiroedd y castell yn ogoneddus. Gallai gynnig bwytai a chaffis ag ardaloedd cysgodol i'w defnyddio, gan roi cyfle iddynt wneud i fyny am y gofod llawr a chleientiaid y byddent yn eu colli fel arall oherwydd bod rhaid dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol yn eu heiddo.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda chwmni technoleg lleol i ddatblygu App a allai olygu y gwelwn bobl yn archebu eu bwyd o'r castell a gaiff wedyn ei ddanfon atynt yno fel y gallant ei fwynhau yn y lleoliad gorau sydd gan y ddinas i'w gynnig. Rwy' hefyd yn awyddus ein bod yn gweithio gyda'r bwrdd cerddoriaeth i ddod â cherddoriaeth fyw yn ôl i'r ddinas cyn gynted ag y gallwn. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio mannau cyhoeddus i greu lleoedd diogel ar gyfer digwyddiadau lle gall pobl fwynhau cerddoriaeth ac adloniant ar y stryd mewn amgylchedd diogel a chroesawgar."

Mae'r cynllun yn amlinellu cyfres o fesurau sydd wedi eu creu i agor y ddinas yn ddiogel ac mewn ffordd a fydd yn annog pobl i ddychwelyd i'r gwaith, i siopa, cynnal eu busnes a mwynhau'r amrywiaeth eang o fwytai, caffis a bariau sydd yma.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24029.html

 

Eglurhad o fil £29mCOVID-19 i Gyngor Caerdydd

Datgelwyd dadansoddiad o amcan gost ymateb i Covid-19 o £29m i Gyngor Caerdydd rhwng mis Ebrill a diwedd Mehefin mewn adroddiad i Gabinet yr awdurdod.

Ymhlith y costau y mae:

  • Gwariant o £5.1m ar gyfarpar diogelu personol (PPE);
  • Cymorth i ddarparwyr gofal yn y cartref a phreswyl i adlewyrchu costau ychwanegol rhoi gofal yn ystod y pandemig;
  • £2.1m ar ddarparu prydau ysgol am ddim i tua 12,000 o ddisgyblion bob dydd;
  • £2.1m o gymorth i gyflenwyr, a delir yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau yn ystod ac ar ôl argyfwng Covid-19 presennol;
  • £1.8m ar wasanaethau profedigaeth - (a ganiatawyd caffael marwdy dros dro);
  • £ 1.7m ar newidiadau gweithredol ar gyfer gwastraff; a
  • £1.6 miliwn ar dai i gynorthwyo'r digartref yn ystod y pandemig.

 

Mae'r Cyngor hefyd wedi datgelu'r colledion incwm yr amcenir y bydd COVID-19 wedi ei gostio i'r Cyngor dros yr un cyfnod.

 

Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Colled o £3.8m mewn ffioedd parcio, cosbau parcio a Throseddau Traffig sy'n Symud;
  • Colled o £2.3m o leoliadau a digwyddiadau;
  • Colled o £1.3m o wastraff masnachol, swmpus ac ailgylchu;
  • Colled o £700,000 o weithgareddau hamdden a chwaraeon awyr agored;
  • Colled o £700,000 o brydau ysgol;
  • Colled o £600,000 o Storey Arms a'r Gwasanaeth Cerddoriaeth;
  • Colled o £500,000 o gynllunio a rheoli adeiladau.

 

Dangosodd yr adroddiad y gwariant a oedd yn gysylltiedig â delio ag effeithiau'r feirws.

Mae'r awdurdod yn amcangyfrif ei fod wedi gwario mwy na £18m yn ymateb i'r argyfwng, ac amcangyfrifir bod £11m arall o incwm wedi ei golli o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19 yn nhri mis cyntaf y flwyddyn ariannol yn unig.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae Cyngor Caerdydd wedi ymateb yn gyflym i'r argyfwng, gan newid y ffordd rydym yn gweithio, gan roi ffocws clir ar gynnal gwasanaethau hanfodol sy'n darparu ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed.

"Ers cychwyn y cyfnod cloi, mae ein gwasanaethau wedi gorfod ymateb ac addasu i'r argyfwng wrth i'r sefyllfa barhau i esblygu. Rydym wedi sefydlu gweithrediadau bwyd i sicrhau na fydd pobl ar draws y ddinas sy'n gwarchod neu'n cael anhawster ariannol oherwydd y feirws yn mynd heb fwyd. Rydym wedi newid y ffordd mae ein gwasanaethau gwastraff yn gweithredu er mwyn sicrhau y cynhelir casgliadau ymyl y ffordd bob wythnos gan gadw ein staff a'n trigolion yn ddiogel.

"Rydym wedi caffael miliynau o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol i sicrhau y gall ein gwasanaethau a'r sector gofal barhau i weithredu. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r sector gofal i sicrhau y gall barhau i weithredu yn y cyfnod anodd hwn, gan ddarparu gwasanaeth hynod bwysig a gwerthfawr. Mae ein hysgolion ardal wedi agor i blant gweithwyr allweddol ac rydym wedi cynnig prydau a thaliadau arian parod i filoedd o blant difreintiedig trwy gydol y cyfnod cloi.

"Wrth gwrs mae hyn i gyd yn costio ac rydym wedi gwario mwy na £18 miliwn er mwyn sicrhau bod y ddinas yn parhau i redeg ac nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith yn dioddef yn ddiangen. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar sicrhau gwydnwch gwasanaethau sy'n hanfodol i'n hymateb i COVID-19, gan wneud popeth a allwn i amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a'n staff, a cheisio atal y feirws rhag lledaenu."

Mae'r gwariant ychwanegol o £18m yn cael ei adolygu'n gyson, ac mae'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i ragor o bwysau ddod i'r amlwg. Mae hyn yn cynnwys asesu effaith ariannol cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau am gymorth gyda'r Dreth Gyngor a gwaith i sefydlu gwasanaethau 'Olrhain Cyswllt' effeithiol yn lleol fel rhan o fenter Cymru gyfan.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24031.html

 

Help i reoli eich arian

Mae gwefan newydd i helpu pobl i reoli eu harian wedi cael ei lansio yr wythnos hon.

Mae Tîm Cyngor Ariannol Cyngor Caerdydd wedi datblygu gwefan newydd sbon i roi cymorth i drigolion ar ystod o faterion ariannol gan gynnwys cyllidebu, hawlio grantiau budd-daliadau a disgowntiau, cyngor ar ddyledion a sicrhau'r incwm mwyaf posibl.

Mae'r wefan newydd yn cynnig llawer o wybodaeth am wahanol bynciau sy'n ymwneud ag arian ac mae'n cynnwys adran am faterion ariannol yn ystod argyfwng COVID-19, sy'n rhoi cyngor ar faterion megis cyflogaeth, cyngor ar dai a chael bwyd a hanfodion.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: Gall delio â materion ariannol beri dryswch ac os nad ydych yn siŵr sut mae pethau fel credyd neu forgeisi'n gweithio, gall pobl fod ar eu colled yn ariannol neu gallant fynd i ddyled.

"Gall ein staff hyfforddedig helpu pobl i ddod o hyd i'r atebion sy'n gweithio orau iddyn nhw a'r llynedd, helpodd y tîm bobl i hawlio bron i werth £15 miliwn o fudd-daliadau nad oedden nhw'n gwybod bod ganddyn nhw hawl iddynt a helpu cwsmeriaid i arbed dros £1 miliwn ar eu gwariant.

"Mae'r wefan newydd yn glir ac yn syml, ac mae'n hawdd dod o hyd i wybodaeth a chymorth ar amrywiaeth o faterion ariannol arni. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael yn rhwydd i bobl. Ar yr adeg hon, a gwasanaethau wyneb yn wyneb o'n hybiau cymunedol wedi'u lleihau oherwydd y pandemig, mae hwn yn adnodd gwirioneddol werthfawr i'n cwsmeriaid.

"Mae'n siŵr y bydd llawer o unigolion ac aelwydydd ar draws y ddinas yn teimlo effaith ariannol argyfwng COVID-19, felly mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gwybod bod ein Tîm Cyngor Ariannol yma o hyd i helpu. Mae ein llinell gyngor ar agor o hyd chwe diwrnod yr wythnos a gall cwsmeriaid gysylltu â'r tîm drwy'r wefan hefyd."

Ewch i'n gwefan Cyngor Ariannol newydd arwww.cyngorariannolcaerdydd.co.uk